Cyngor Sir Ynys Môn

Lwfans Tai Lleol


Mae’r Lwfans hwn yn ffordd o weithio allan beth fydd Budd-daliadau Tai i denantiaid sy’n rhentu oddi ar landlord preifat.  Hefyd mae’n cael effaith ar denantiaid sydd yn derbyn budd-daliadau tai yn barod ac yn symud i le rhent gan landlord preifat. 

Os ydych yn byw mewn tŷ cyngor neu mewn tŷ cymdeithasol arall dyw’r Lwfans Tai Leol ddim yn berthnasol i chi.

Mae’r Lwfans hwn yn rhoi mwy o ddewis i’r tenantiaid – dewis lle i fyw ond hefyd mae’n decach. Dyma rhai o’r prif rhesymau - gyda’r Lwfans Tai Lleol :

  • Mi fedrwch hawlio’r un faint o budd-daliadau â phobl sy’n byw dan yr un amgylchiadau â chi
  • Mi fedrwch ffendio faint o fudd-daliadau sy’n daladwy i chi a hynny cyn mynd ati i rentu lle
  • Mi fedrwch chwi fel unigolyn benderfynu faint o’r budd-daliadau yr ydych am ei wario ar rentu lle
  • Fel arfer mi fydd budd-daliadau yn cael eu talu i chwi.Chwi wedyn sy’n gyfrifol am dalu’r rhent i’r landlord
  • Mi gewch wybod am eich budd-daliadau yn gynt na than yr hen drefn

Fel arfer mi fydd y rhain yn cael eu talu’n uniongyrchol i chi - yn uniongyrchol i gyfrif eich banc neu i’r gymdeithas adeiladu; os nad oes gennych gyfrif o’r fath mi fyddwch yn derbyn y tâl trwy siec.

Os nad oes gennych chi gyfrif banc na chyfrif cymdeithas adeiladu efallai y byddwch yn dymuno agor cyfrif.  Trwy wneud hynny mi fedrwch drefnu i dalu’r rhent yn syth i’ch landlord, gan ddefnyddio gorchymyn parhaus. Am wybodaeth ar y gwahanol fanciau, cymdeithasau adeiladu ac undebau credyd gellir eu cael ar Ynys Mon a’r cyfrifon banc sylfaenol sydd ar gael, gweler y ddogfen PDF yn y tab dogfennau ar ben y dudalen.

Mi fedrwch gael cyngor ar sut i agor cyfrif yn y banc neu yn y gymdeithas adeiladu trwy gysylltu gyda nhw.  Ond hefyd mi fedrwch gael cyngor trwy gysylltu â mudiad megis y Citizens Advice. Chi sy’n gyfrifol am dalu rhent i’r landlord - os na fyddwch chi yn gwneud hynny mae’n bosib mynd â chi  i’r Llys a’ch troi o’r tŷ.

Gallwch edrych ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol sy’n berthnasol i Ynys Môn ar wefan Llywodraeth Cymru.