Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon
Llenwch y ffurflen ar-lein.
Fel arall, lawrlwythwch ffurflen isod, ei chwblhau a'i hanfon i'r Adain Rheoli Gwastraff, neu ffoniwch y swyddfa ar 01248 750 057.
Gallwch adrodd yn ddienw.
Nid oes angen stamp - defnyddiwch y cyfeiriad rhadbost ar y ffurflen.
Tipio anghyfreithlon: beth yw
Tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff a reolir yn ddiawdurdod ar dir nad yw wedi ei drwyddedu i’w dderbyn.
Mewn geiriau eraill mae’n rhywbeth mwy na gadael sbwriel.
Gellir gweld yr union fanylion am y drosedd o dan Adran 33 Deddf Diogelwch Amgylcheddol 1990.
Mae pobl sy’n cyflawni’r drosedd hon yn torri’r gyfraith ac mae tipio anghyfreithlon yn niweidiol i’r amgylchedd, yn llygru, yn annifyr i edrych arno, yn wrthgymdeithasol ac yn gostus i’w glirio.
Talu rhywun i gael gwared ar eich sbwriel
Os byddwch chi’n talu i rywun fynd â sbwriel o’ch cartref neu eitemau nad oes mo’u hangen arnoch mwyach, rhaid i chi wneud yn siŵr eu bod nhw wedi cofrestru fel cludwyr gwastraff.
Gallwch gael dirwy
Os na wnewch chi, gallwch gael eich dirwyo.
Gwiriwch fod y person neu'r cwmni wedi'i gofrestru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
Gofynnwch i ble mae eich gwastraff yn mynd
Rydym ni hefyd yn argymell eich bod chi’n:
- cadw cofnod o bob ymholiad fyddwch chi’n ei wneud, gan gynnwys enw a rhif cofrestru’r gweithredwr
- cadw anfoneb sy’n cynnwys disgrifi ad o’r gwastraff a’r cwmni a ddefnyddiwyd
- cofnodi manylion y busnes neu’r cerbyd (rhif cofrestru, math, model, lliw)
Beth mae'r cyngor yn ei wneud ynglŷn â thipio anghyfreithlon
Bydd pob achos o dipio anghyfreithlon yr adroddir amdano yn cael ei ymchwilio, a’i archwilio a chymerir ffotograff ac yna caiff ei basio ymlaen i’n contractwyr i’w glirio.
Mae’r tystiolaeth yn cael ei ddefnyddio i sefydlu enw a chyfeiriad, manylion cyfrif banc personol, enwau cwmnïau neu unrhyw beth fydd yn cyfeirio’r Swyddog Gorfodaeth tuag at y troseddwr.
Mae hyn yn cymryd llawer o amser ac ymdrech gyda rhywbeth y gellir ei gludo i'r Canolfannau Ailgylchu Domestig (CAD) yng Ngwalchmai a Phenhesgyn, yn rhad ac am ddim ac yn cael ei drin yn gywir.
Tir preifat
Nid cyfrifoldeb y cyngor yw clirio achosion o dipio anghyfreithlon ar dir preifat. Bydd angen gwneud trefniadau preifat.
Y gyfraith
Cyflwynwyd Cyfraith Statud i gosbi’r rhai sy’n cyflawni trosedd amgylcheddol.
Defnyddir y ddeddfwriaeth hon i roi dirwy sefydlog a chymryd camau cyfreithiol lle bo angen hynny.
Cymryd camau gorfodaeth yw’r opsiwn olaf ac addysgu pobl yw’r opsiwn gorau bob tro.
Bydd yr Adain Rheoli Gwastraff yn gweithio gyda thrigolion i addysgu a rhoi cyfarwyddyd ar sut i ddelio gyda gwastraff a chael gwared ohono mewn ffordd gyfrifol.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.