Mae eich gwastraff bwyd yn cael ei gasglu yn wythnosol, yr un diwrnod a’ch bin a’ch troli ailgylchu.
Dylai eich pecyn gwastraff bwyd gynnwys:
- bin bach gwastraff bwyd
- cadi cegin
- bagiau compostadwy
Leiniwch eich cadi cegin gyda’r bagiau compostadwy a chadwch y cadi mewn lle cyfleus i gasglu eich gwastraff bwyd.
Gwagiwch y gwastraff i’r bin bach gwastraff bwyd gan glymu’r bag compostadwy.
Rhowch eich bin bach gwastraff bwyd y tu allan i’ch tŷ yn barod i’w gasglu erbyn 7yb ar ddiwrnod eich casgliad.
- ffrwythau a llysiau amrwd neu wedi’u coginio
- cig a physgod – amrwd neu wedi’u coginio gan gynnwys esgyrn
- bara, teisennau a phastai
- te a choffi
- reis, pasta a ffa
- bwyd sy’n weddill ar eich plât ar ddiwedd pryd
Ni allwn dderbyn:
- hylifau
- olew neu fraster hylif
- bagiau plastig (defyddiwch y bagiau compostadwy yn unig)
- unrhyw deunydd pacio
- gadael i ni wybod os nad yw eich bin yn cael ei wagio o fewn 24 awr o’r diwrnod casglu
- rhoi eich bin bach gwastraff bwyd allan cyn 7 o’r gloch y bore ar ddiwrnod eich casgliad
- rhoi’r eitemau cywir yn y bagiau compostadwy yn y bin bach gwastraff bwyd
- ceisio lleihau eich gwastraff os yn bosib, fe all arbed o leiaf £420 y flwyddyn i chi
- golchwch eich bin brown o bryd i’w gilydd
Os ydych chi wedi rhedeg allan o fagiau gwastraff bwyd, clymwch y tag melyn a roddwyd i chwi ar y bin gwastraff bwyd a bydd eich bagiau gwastraff bwyd newydd yn cael eu danfon ar eich diwrnod casglu arferol. Unwaith y byddwch wedi derbyn y bagiau yna tynnwch y tag melyn oddi ar y bin a’i gadw tan y byddwch angen mwy o fagiau. Os nad oes ganddoch dag melyn, yna cysylltwch â’r Adain Rheoli Gwastraff ar 01248 752860.