Cyngor Sir Ynys Môn

Casgliad gwastraff domestig ar Ynys Môn


Mae gan bob aelwyd sy’n talu Treth Cyngor domestig safonol ym Môn hawl i gael:

  • bin du 240 litr ar olwynion
  • troli bocs ailgylchu
  • bin brown 23 litr ynghyd â chadi cegin brown 7 litr
  • bin gwyrdd 240 litr ar gyfer gwastraff gardd (tanysgrifwyr yn unig

Pan fydd eich biniau'n cael eu casglu a'u gwagio

Bi du

Mae’r bin du ar olwynion yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod bob tair wythnos.

Bin gwyrdd

Rhaid i chi dalu i gael eich bin gwyrdd wedi'i gasglu. Mae’r bin gwyrdd yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod bob pythefnos.

Trolibocs ailgylchu a’r bin bwyd

Mae’r trolibocs ailgylchu a’r bin bach bwyd brown yn cael eu casglu ar yr un diwrnod pob wythnos.

Rhowch eich biniau a'ch bocsys allan erbyn 7am

Er mwyn sicrhau bod eich gwastraff ac ailgylchu yn cael eu casglu, yna rhowch y biniau a’r bocsys allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu.

Eich diwrnod casglu biniau

Dewch o hyd i'ch diwrnod biniau
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.