Cyngor Sir Ynys Môn

Canolfan Ailgylchu Domestig (CAD) Penhesgyn


Dim angen bwcio

Nid oes angen i chi logi slot ymlaen llaw er mwyn defnyddio Canolfan Ailgylchu Domestig Penhesgyn.

Rhaid archebu eich ymweliad os ydych am ddefnyddio Canolfan Ailgylchu Domestig Gwalchmai

Amodau llym canlynol

Bydd yn rhaid i bob cerbyd fod yn ddim hirach na 5 metr na’n uwch na 2.1 metr yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol.

Prawf preswylio

Pan fyddwch yn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Domestig Penhesgyn rhaid i chi ddangos prawf o breswyliad ar Ynys Môn, megis:

  • bil Treth Gyngor (blwyddyn ariannol gyfredol)
  • trwydded yrru
  • bil cyfleustodau (dim hŷn na 3 mis)

Gyda'ch car ar stop, daliwch y ddogfen sy’n profi eich bod yn byw ar yr ynys ar y ffenestr flaen/ffenestr wedi cau i aelod o staff y Cyngor ei harchwilio drwy’r ffenestr er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Os na fyddwch yn dangos prawf o breswyliad, efallai na fyddwch yn cael mynediad i'r safle.

Gwyliau banc

Nid yw oriau agor Penhesgyn yn cael eu heffeithio ar wyliau banc ac eithrio:

  • Dydd Nadolig
  • Gŵyl San Steffan
  • Dydd Calan

Dydd

Oriau agor

Amser cau

Dydd Llun

10am

4:30pm

Dydd Mawrth

10am

4:30pm

Dydd Mercher

Ar gau

Dydd Iau

Ar gau

Dydd Gwener

10am

4:30pm

Dydd Sadwrn

10am

4:30pm

Dydd Sul

10am

4:30pm

Mae’r canolfannau ailgylchu domestig wedi’i leoli oddi ar y B5420 sef y Ffordd Penmynydd rhwng Llangefni a Phorthaethwy.

O gyfeiriad Porthaethwy, gyrrwch heibio Pili Palas am hanner milltir a throwch i’r dde am y ganolfan ailgylchu.

Y cod post yw LL59 5RY

Gallwch ailgylchu pob math o wastraff domestig megis:

  • gwastraff gardd
  • dillad a thecstiliau
  • poteli plastig
  • paent
  • cetris inc argraffydd
  • pren a choed
  • poteli gwydr a jariau
  • cartonau
  • cemegau cartref a gardd (wedi eu labelu yn glir)
  • batris
  • papur a chardbord
  • oergelloedd a rhewgelloedd, teclynau bach/mawr, teledai a monitrau
  • tiniau bwyd a chaniau diod, metel sgrap
  • dodrefn
  • gwastraff y cartref na ellir ei ailgylchu

Derbynnir nifer cyfyngedig o’r deunyddiau canlynol:

  • pridd
  • rwbel
  • gwastraff DIY
  • batris car
  • teiars
  • asbestos (Derbynnir symiau bach mewn bagiau wedi eu selio)
  • poteli nwy
  • olew peiriant

Yn anffodus nid yw’r canolfannau yn derbyn y canlynol:

  • chwyn gwenwynig a boncyffion coed mawr
  • deunyddiau ffrwydrol
  • hylifau tra fflamadwy e.e petrol
  • symiau mawr o wastraff adeiladu, adnewyddiad neu DIY

Gwastraff busnes

Ni dderbynnir gwastraff busnes yn y canolfannau ailgylchu. Nid ydym yn drwyddedig i gymryd unrhyw fath o wastraff busnes. Mae masnachwyr yn torri’r gyfraith os ydynt yn cael gwared o wastraff yn y safleoedd hyn.

Os bydd unrhywun yn dod â gwastraff y cartref i’r safleoedd hyn mewn cerbyd masnachol efallai bydd gofyn iddynt ei ddatgan fel gwastraff y cartref. Dylech baratoi i gael eich sbwriel wedi ei archwilio i sicrhau nad gwastraff busnes ydyw.

Os ydych angen mwy o wybodaeth, ffoniwch yr Adain Rheoli Gwastraff os gwelwch yn dda ar (01248) 750 057.

Byddwch angen caniatâd i ymweld â CAGD gyda’r cerbydau canlynol:

  • ‘pickup’
  • fan fechan
  • fan fechan ar gyfer cludo nwyddau (o fath ‘transit’)
  • minibws bychan neu gar preifat gyda threlar o faint canolig rhwng 1.8m a 3m o hyd
  • cerbyd gydag arwydd arno

Bydd yn rhaid i bob cerbyd fod yn ddim hirach na 5m na’n uwch na 2.1m yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach gweler y Cynllun Caniatâd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Domestig

Mae’r cyngor yn rhagweld y bydd nifer uchel o gerbydau yn ymweld yn ystod y cyfnodau prysuraf a ni fydd modd pennu amseroedd aros, felly disgwylir y bydd yna giwiau – byddwch yn amyneddgar a disgwyliwch am gyfarwyddyd i ddod i mewn i’r safle os gwelwch yn dda.

Cadwch at y system rheoli traffig a'r arwyddion cyfarwyddiadau ar y safle os gwelwch yn dda.

Ni all y trelar fod yn hirach na 1.8 metr o hyd.

Rhaid i’r cerbyd sy’n tynnu’r trelar fod yn gar safonol o fath domestig. 

Os yw’r cerbyd sy’n tynnu’r trelar yn gerbyd masnachol o dan ddiffiniad ffurfiol y cyngor, ni fyddwch yn cael mynediad i’r safle.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach gweler y Cynllun Caniatâd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestigarnoch

Mae slotiau ar gael i drigolion Ynys Môn gasglu'r gwellhäwr pridd. o Ganolfan Ailgylchu Penhesgyn o 26 Mawrth ar ddydd Mercher a dydd Iau.

Ffoniwch 01248 713313 ar ôl 9am i archebu eich slot os gwelwch yn dda.