Cyngor Sir Ynys Môn

Biniau newydd a rhannau troli ailgylchu


Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth ar y dudalen hon i archebu biniau newydd, bagiau bwyd, rhannau ar gyfer eich troli ailgylchu a’ch bin bach bwyd.

Mae hawl gan ddeiliaid tai sy'n talu Treth Gyngor ddomestig safonol ar Ynys Môn i gael un bin olwyn du 240 litr fesul eiddo. Ni fyddwch yn gallu prynu biniau ychwanegol, a dim ond un bin olwyn du fesul eiddo fydd yn cael ei wagio.

Taliadau am finiau olwyn du ar olwynion newydd neu yn lle rhai a gollwyd neu a ddifrodwyd

Mae bin newydd neu bin yn lle un a gollwyd yn costio £41 gan gynnwys TAW. Bydd raid talu’r ffi hon am unrhyw fin newydd a gollwyd, a ddifrodwyd neu a gafodd ei ladrata.

Mae’r tâl yn cynnwys costau gweinyddiaeth a chost danfon y bin ond nid yw’n golygu mai chi fydd biau’r bin wedyn gan mai eiddo Cyngor Sir Ynys Môn ydynt bob amser. Nid oes modd cael y biniau hyn am bris rhatach.

Os y dymunwch drafod opsiwn o gael bin du ar olwynion gyda llai o le ynddo yna cysylltwch 01248 752 860 os gwelwch yn dda.

Tai domestig newydd

Ar gyfer tai domestig sydd newydd gael eu hadeiladu, darperir y bin du ar olwynion cyntaf yn rhad ac am ddim, (ar ôl derbyn tystiolaeth ysgrifenedig i gadarnhau bod yr eiddo wedi cael ei gofrestru am y tro cyntaf gyda’r Adran Dreth Gyngor).

Am wybodaeth pellach, yna cysylltwch 01248 752 860 os gwelwch yn dda.

Sut i archebu

Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn archebu biniau du neu rhai a gollwyd neu a ddifrodwyd.

Archebu bin du / rhai a gollwyd neu a ddifrodwyd - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Cyflenwi

Byddwn yn danfon y bin i’ch cyfeiriad cartref neu gallwn ddanfon y bin i gymydog a enwebwyd gennych.

Danfonir y bin du ar olwynion newydd neu ei amnewid o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i'r taliad gael ei gadarnhau a bod y cais wedi'i gymeradwyo. Os yw'r bin du ar olwynion sydd i'w gyfnewid yn llawn, efallai na fydd y cyfnewid yn digwydd tan ar ôl y casgliad nesaf a drefnwyd pan fydd y bin yn wag.

Biniau coll

Rydym yn eich cynghori i wirio'r ardal o amgylch eich eiddo a siarad â'ch cymdogion cyn archebu bin olwyn du newydd. Mae hyn oherwydd ein bod yn gwybod o brofiad bod biniau coll yn aml yn ymddangos. Os ydych yn dal heb eich bin olwyn du ar ôl gwirio dylech archebu un newydd.

Symud tŷ

Os ydych yn symud tŷ, gadewch y biniau/bocsys yn y tŷ.

Os nad oes biniau/bocsys yn y tŷ newydd, defnyddiwch y ffurflen Archebu biniau du ar olwynion a’r ffurflen Archebwch bin gwyrdd, bin bach gwastraff bwyd, bocsys ailgylchu a throli (bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes gennych un eisoes) neu ffoniwch 01248 750057 (dewiswch yr opsiwn Gwasanaethau Gwastraff) i wneud cais ar gyfer unrhyw offer newydd sydd ei angen.

Am wybodaeth am pa eitemau y gellir eu rhoi ym mha fin, a gweld yr amserlen casglu, ewch i’r tudalennau gwybodaeth biniau ac ailgylchu.

Gwybodaeth bellach

Gweler ein telerau ac amodau llawn/cwestiynau cyffredin.

Gweler ein telerau ac amodau prynu ar-lein.

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Gallwch dalu i ni gasglu eich gwastraff gardd bob pythefnos.

Os oes angen archebu bin gwyrdd newydd, ffoniwch 01248 750 057 neu e-bostiwch cyswlltmon@ynysmon.llyw.cymru

Defnyddiwch ein ffurflen ddiogel i archebu bin bach gwastraff bwyd, bocsys ailgylchu, ffram neu ddarnau i’r set trolibocs sydd wedi eu colli/difrodi.

Bagiau bwyd

Gallwch archebu bagiau bwyd ar-lein gyda'r ffurflen yn yr adran hon. Gallwch hefyd glymu'r label cais i'ch cadi bwyd pan fyddwch yn ei roi allan i'w gasglu.

Archebu bin bach gwastraff bwyd, bocsys ailgylchu a throli - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.