Canllaw sy'n dangos beth allwch chi ei roi yn eich biniau.
Golchi a gwasgu
Cofiwch olchi a gwasgu eich eitemau ailgylchu cyn eu rhoi yn y troli bocs. Bydd hyn yn creu mwy o le yn eich troli bocs.
Os yw’r eitemau ailgylchu a gyflwynir yn fudr, neu os oes olion bwyd arnynt, ni fydd contractwr casglu gwastraff y cyngor yn gwagio’r bocsys ailgylchu.
Byddant yn cael eu gadael ac yn cael eu casglu’r wythnos ganlynol (ar yr amod fod pob eitem yn lân).
Trolibocs
Bocs top coch
- Papur cymysg
- Cylchgronau ac amlenni
Bocs canol glas
- Poteli plastig
- Potiau, tybiau a chynwysyddion plastig
- Caniau diod, tuniau bwyd ac erosolau
- Eitemau ffoil glân
Dim tuniau nwy.
Bocs gwaelod oren
- Poteli gwydr a jariau
- Cardbord (dim mwy na 50cm x 50cm)
Bin gwastraff bwyd
- Llysiau a ffrwythau
- Bara a phastai
- Cynnyrch llaeth
- Cig ac esgyrn
- Pysgod
- Te a choffi
Gwasanaeth i danysgrifwyr yn unig
- Toriadau gwair
- Dail
- Chwyn
- Blodau a phlanhigion
- Brigdoriadau gardd
- Toriadau gwrychoedd
- Brigau a changhennau tenau
Cofiwch:
- Dim bagiau plastig
- Dim gwastraff cegin a bwyd
- Dim pridd a rwbel
- Dylech ddefnyddio hwn ar gyfer gwastraff cartref na allwch ei roi yn y bocsys ail gylchu, y bin gwastraff bwyd neu’r bin gwyrdd.
- Ni fydd sbwriel mewn bagiau ychwanegol yn cael ei gasgl.
Gwastraff peryglus
Mae’n rhaid i eitemau gwastraff peryglus megis batris, blychau nwy, cemegau a barbeciws y gellir eu taflu gael eu gwaredu yn y modd priodol.
Mae’r eitemau hyn yn gallu achosi gwres ac ni ddylid eu rhoi gyda’r gwastraff cyffredinol. Gall yr eitemau hyn achosi tân yn y canolfannau ailgylchu gan greu sefyllfaoedd peryglus ac achosi risg i nifer o bobl.
Dylid cael gwared ar yr holl eitemau gwastraff peryglus eraill yn y modd priodol yng nghanolfan ailgylchu gwastraff domestig Gwalchmai neu Phenhesgyn.
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.