Bin bach gwastraff bwyd, bocsys ailgylchu a throli
Defnyddiwch ein ffurflen ddiogel i archebu bin bach gwastraff bwyd, bocsys ailgylchu, ffram neu ddarnau i’r set trolibocs sydd wedi eu colli/difrodi.
Os nad ydych wedi gwneud yn barod, bydd angen i chi gofrestru er mwyn creu cyfrif hunan wasanaeth personol a diogel. Bydd yn arbed amser ac yn helpu i gadw trefn ar eich ceisiadau am wasanaeth.
Bin du
Mae gennym ffurflen ar wahân ar gyfer archebu bin du newydd neu fin newydd.
Sut mae cofrestru ar y porth ar-lein?
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost i greu cyfrif diogel i gofrestru gyda Fy Nghyfrif. Bydd angen i chi hefyd gytuno gyda’n telerau ac amodau, sy’n rhoi caniatâd i ddal a defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisïau preifatrwydd a diogelu data.
Nodyn pwysig: Wrth gofrestru i ddefnyddio’r porth am y tro cyntaf, gofynnir i chi fynd i’ch cyfrif e-bost, agor yr e-bost y byddwn ni wedi’i anfon atoch chi a chlicio ar y ddolen i actifadu’ch cyfrif. Ni fyddwch yn gallu mewngofnodi i borth Fy Nghyfrif neu ddefnyddio’r ffurflenni heb actifadu’ch cyfrif o’r ddolen yn yr e-bost.
Os nad ydych chi’n meddwl eich bod wedi derbyn e-bost, edrychwch yn eich ffolder Spam. Gallwn wirio a gweithredu’r cyfrif os oes angen, rhowch wybod i ni os yw hyn yn rhywbeth yr ydych am i ni ei wneud.