Cyngor Sir Ynys Môn

MapMôn


Mae ein adain fapio yn cynnig amrediad eang o wybodaeth mewn perthynas â’ch cyfeiriad a’r ardal o’ch cwmpas. 

Ewch i MapMôn - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Sut mae MapMôn yn gweithio

Mae gan system MapMôn 3 o dabiau, sef:

  • Fy Nhŷ
  • Agosaf i mi
  • Mapiau

Fy Nhŷ

Gan ddefnyddio’r tab Fy Nhŷ a rhoi rhif, enw a chôd post eu cartref i mewn, gallwch weld eich cartref ar fap a manylion eich eiddo.

Gallwch weld manylion am eich cynghorwyr, eich Aelod Seneddol a’ch Aelod o'r Senedd, yn ogystal ag ysgolion sy’n agos i’ch cartref a manylion y dalgylch.

Agosaf i mi

Mae’r tab hwn yn rhoi gwybodaeth am ysgolion a cheisiadau cynllunio sydd o fewn 50m i’ch cartref.

Fy Mapiau

Mae Fy Mapiau, yn cyflwyno ystod eang o opsiynau i chi o ran y wybodaeth sydd ar gael i chi ei gweld, megis:

  • ceisiadau cynllunio
  • ystadegau gan yr heddlu ynghylch troseddau
  • mynediad i’r cefn gwlad