Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Sut i arbed (safio/gadw) eich ceisiadau gwasanaeth


Pam arbed eich ceisiadau gwasanaeth?

Mae Fy Nghyfrif Môn newydd yn fyw.

Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo eich manylion personol o’ch cyfrif ‘Fy Nghyfrif’ blaenorol i’r cyfrif newydd, ‘Fy Nghyfrif Môn’.

Bydd modd cael mynediad at eich data presennol tan 31 Mai 2023.

Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd gennych fynediad i’ch ceisiadau am wasanaeth a’ch data personol ar yr hen lwyfan ‘Fy Nghyfrif’.

Ar 31 Gorffennaf 2023, bydd y data a gedwir ar y llwyfan hwn yn cael ei ddileu.

Efallai yr hoffech arbed eich ceisiadau gwasanaeth presennol. Nid oes rhaid i chi wneud hyn, ond ni fyddwch yn gallu cyrchu’r cofnodion hynny ar ôl 31 Mai 2023.

Sut i arbed eich ceisiadau gwasanaeth

Os yr ydych yn dewis cadw copi o'ch ceisiadau gwasanaeth, rydym yn argymell eich bod yn eu cadw fel dogfennau PDF. 

Gallwch hefyd argraffu eich ceisiadau gwasanaeth fel copïau papur. Mae hyn i fyny i chi. 

I gadw copi o'ch ceisiadau gwasanaeth bydd angen i chi wybod sut i gadw tudalen we fel PDF, neu sut i argraffu copi papur, ar y ddyfais rydych chi'n ei defnyddio. 

Pan fyddwch yn gwybod sut i gadw tudalen we fel PDF ar eich dyfais, neu argraffu copi papur, dilynwch ein canllaw i arbed copi o'ch ceisiadau gwasanaeth. 

Sut i arbed (safio/gadw) tudalen we fel PDF neu argraffu copi papur 

Ffonau clyfar a thabledi: Cadw tudalen we fel PDF

Os ydych chi'n defnyddio'r porwr Chrome ar eich ffôn clyfar neu dabled (ffôn Android, tabled Android, iPad neu iPhone), gallwch arbed tudalen we fel PDF drwy ddilyn y camau yma:

  1. Agorwch y dudalen we rydych chi am ei chadw fel PDF yn yr app Chrome ar gyfer Android. Tapiwch y botwm tri dot sydd yn y gornel dde uchaf a dewiswch Share (Rhannu).
  2. Bydd dewislen arall yn ymddangos ar eich sgrin; yma dewiswch Print (Argraffu).
  3. Tapiwch y saeth i lawr ar gornel dde uchaf eich sgrin a dewis ‘Save as PDF’ o’r ddewislen opsiynau.
  4. Gallwch ddefnyddio'r saeth i lawr o dan Maint Papur i ddewis sawl opsiwn megis nifer y tudalennau a maint os oes angen.
  5. Unwaith y byddwch yn barod i arbed eich PDF, pwyswch y botwm glas PDF sydd ar ochr dde eich sgrin.

Gliniadur a PC

Os ydych chi'n defnyddio gliniadur neu gyfrifiadur, ceir camau i’w ddilyn ar wefan Adobe.

Llwybr byr bysellfwrdd

Yn y dudalen we, defnyddiwch y bysellau Ctrl a P gyda'i gilydd. Bydd hyn yn dod â'r ddewislen argraffydd i fyny. O'r fan hon gallwch ddewis Save as PDF neu argraffu copi papur.

iPhone

Ewch i dudalen we cymorth Apple sy'n dangos i chi sut i argraffu neu greu PDF o dudalen we ar iPhone.

iPad

Ewch i dudalen we cymorth Apple sy'n dangos i chi sut i argraffu neu greu PDF o dudalen we ar iPad.

Apple Mac

Ewch i dudalen we cymorth Apple sy'n dangos i chi sut i argraffu neu greu PDF o dudalen we yn Safari ar Mac.

Os ydych chi'n defnyddio Microsoft Edge ar liniadur neu gyfrifiadur, dilynwch y camau hyn:

  1. Agor Microsoft Edge.
  2. Llywiwch i'r dudalen we rydych am ei chadw fel dogfen PDF neu ei hargraffu fel copi papur.
  3. Tapiwch neu cliciwch ar y tri dot yn y gornel dde uchaf (Settings and more – ‘Gosodiadau a mwy').
  4. Dewiswch yr opsiwn 'Print’ (Argraffu).
  5. Defnyddiwch y ddewislen 'Argraffydd' i ddewis yr opsiwn 'Save as PDF' neu dewiswch argraffydd ar gyfer copi papur.

Llwybr byr bysellfwrdd

Yn y dudalen we, defnyddiwch y bysellau Ctrl a P gyda'i gilydd. Bydd hyn yn dod â'r ddewislen argraffydd i fyny. O'r fan hon gallwch ddewis Save as PDF neu argraffu copi papur.

Sut i arbed eich ceisiadau gwasanaeth ar Fy Nghyfrif

  1. Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif ar eich dyfais.
  2. Ar ôl mewngofnodi, fe welwch hafan Fy Nghyfrif. 
    Tapiwch neu cliciwch ar y bar Ceisiadau am wasanaeth i weld eich holl geisiadau am wasanaeth.
  3. Byddwch nawr ar dudalen Fy adroddiadau.
    I arbed copi o gais gwasanaeth, tapiwch neu cliciwch ar yr eicon ‘View’ ar gyfer y cais gwasanaeth hwnnw.
  4. Fe welwch y cais am wasanaeth, yno gallwch ei gadw fel PDF neu argraffu copi papur.

I gadw copi o gais gwasanaeth arall, defnyddiwch y botwm Yn ôl ar frig ochr dde'r sgrin i ddychwelyd i'r dudalen Fy Adroddiadau.