Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Fy Nghyfrif Môn


Gallwch ddefnyddio Fy Nghyfrif Môn ar eich cyfrifiadur personol, gliniadur, tabled neu ffôn clyfar i wneud ceisiadau gwasanaeth i’r cyngor a rheoli eich ceisiadau ar-lein.

Mae Fy Nghyfrif wedi newid

Gelwir 'Fy Nghyfrif' bellach yn 'Fy Nghyfrif Môn'.

Fel rhan o’n gwelliannau parhaus i’n harlwy digidol, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi datblygu platfform newydd. Gelwir hyn yn 'Fy Nghyfrif Môn'.

Nid oes rhaid i chi greu cyfrif i ddefnyddio platfform newydd Fy Nghyfrif Môn, ond rydym yn argymell eich bod yn gwneud hynny.

Os ydych wedi bod â chyfrif gyda ni yn y gorffennol, ni fyddwn yn trosglwyddo hanes eich ceisiadau blaenorol o'ch hen gyfrif i lwyfan newydd 'Fy Nghyfrif Môn'.

Ewch i Fy Nghyfrif Môn

Eich hen gyfrif

Gallwch chi fewngofnodi i'ch hen gyfrif o hyd tan 31 Mai 2023 i weld eich ceisiadau blaenorol. Byddwn yn prosesu unrhyw geisiadau sy'n weddill ar yr hen system.

Gallwch arbed copïau o'ch ceisiadau blaenorol. Nid oes rhaid i chi wneud hyn, ond ni fyddwch yn gallu cyrchu’r cofnodion hynny ar ôl 31 Mai 2023.

Rydym wedi llunio rhestr o atebion i gwestiynau a allai fod gennych, gan esbonio pam rydym wedi creu platfform newydd a beth fydd yn digwydd i'ch data, os oedd gennych gyfrif gyda ni o'r blaen. 

Pam creu cyfrif?

Bydd cyfrif yn caniatáu i chi reoli eich ceisiadau gwasanaeth a chyfrifon gyda ni.

Mae creu cyfrif yn arbed amser i chi gyda chwblhau eich manylion cyswllt yn awtomatig wrth lenwi ffurflenni a gallwch weld eich ceisiadau hanesyddol a'ch cyfrifon.

Mae'n llawer haws i ni drafod pethau gyda chi os oes gennych chi gyfrif.

Byddwch hefyd yn gallu gweld eich dyddiadau casglu biniau nesaf ar yr hafan unwaith y byddwch wedi mewngofnodi.

Creu cyfrif

  • Ewch i’r tudalen Fy Nghyfrif Môn.
  • Dilynwch y ddolen ‘Cofrestru’.
  • Rhowch y cyfeiriad e-bost yr ydych isiau ei ddefnyddio. Dyma fydd eich enw defnyddiwr.
  • Crëwch gyfrinair; bydd rhaid iddo gwrdd â’r gofynion cyfrinair.
  • Wedyn defnyddiwch y botwm ‘Cyflwyno’ i greu’r cyfrif.

Actifadu’r cyfrif

  • Yna byddwch yn cael neges yn dweud y bydd angen i chi wirio pwy ydych chi trwy fynd i'ch cyfrif e-bost.
  • Byddwch yn cael e-bost dwyieithog yn gofyn ichi actifadu eich cyfrif.
  • Bydd y ddolen actifadu yn yr e-bost yn mynd â chi i Fy Nghyfrif Môn.
  • Rhowch eich enw defnyddiwr (eich cyfeiriad e-bost) a'r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru a mewngofnodi.

Creu eich proffil

  • Cwblhewch fanylion eich proffil drwy ychwanegu eich enw, manylion cyswllt a chyfeiriad, ac yna defnyddiwch y botwm ‘Cyflwyno’ i gadw’r manylion hyn.

Yna byddwch yn cael eich tywys i'ch tudalen gartref newydd.

  • Ewch i dudalen we Fy Nghyfrif Môn.
  • Dilynwch y botwm mewngofnodi.
  • Dilynwch y ddolen ‘Wedi anghofio cyfrinair’.
  • Ar y sgrin nesaf, rhowch eich cyfeiriad e-bost a chyflwyno.
  • Byddwch yn cael e-bost gyda dolen ailosod cyfrinair.
  • Dilynwch y ddolen hon a rhowch gyfrinair newydd, cadarnhewch y cyfrinair newydd a'i gyflwyno.
  • Yna byddwch yn cael eich mewngofnodi'n awtomatig i'ch cyfrif.
  • Ewch i dudalen we Fy Nghyfrif Môn a mewngofnodwch i'ch cyfrif.
  • Mae dolen ar hafan eich ‘Fy Nghyfrif Môn’ i ddiweddaru eich cyfrif. Mae'r ddolen yn eistedd o fewn y neges groeso sy'n rhestru rhai o'ch manylion personol.
  • Gallwch chi ddiweddaru eich:
    • cyfeiriad e-bost
    • cyfrinair
    • proffil (gan gynnwys eich teitl, enw, dewisiadau iaith, rhifau ffôn, dull o gyfathrebu)
    • manylion cyswllt
    • cyfeiriad
  • Ar ôl gwneud unrhyw newidiadau, arbedwch nhw trwy ddefnyddio’r botwm ‘Cyflwyno’.

Weithiau, byddwn yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth ar ôl i chi anfon ffurflen atom trwy Fy Nghyfrif Môn.

Byddwn ond yn gwneud hyn os ydych wedi cofrestru gyda ‘Fy Nghyfrif Môn’.

Pan fyddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, bydd gennych 15 diwrnod i ddod yn ôl atom. Os na fyddwch yn dychwelyd atom, byddwn yn cau'r achos. Byddwch yn cael e-byst atgoffa rheolaidd cyn i ni gau'r achos.

Bydd angen i chi greu cais newydd os yw'r mater yn dal i fod yn rhywbeth yr hoffech wneud cais amdano neu ofyn i ni amdano.

Sut i ateb cais am ragor o wybodaeth

  • Os byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, byddwch yn cael e-bost oddi wrthym.
  • Ar ôl darllen yr e-bost, mewngofnodwch i'ch Fy Nghyfrif Môn.
  • Ewch i ‘Fy ngheisiadau’ ac o dan y pennawd ‘Statws cais’ fe welwch y gair ‘Angen gweithred’ os ydym wedi gofyn i chi am ragor o wybodaeth.
  • Agorwch y cais.
  • Defnyddiwch y botwm ‘Parhau’ i weld pa wybodaeth rydym wedi gofyn amdani.
  • Atebwch y cais a’i anfon atom drwy ddefnyddio’r botwm ‘Cyflwyno’.
  • Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom eto, caiff y broses ei hailadrodd.