Pwrpas yr ymgynghoriad hwn
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal ymgynghoriad statudol ar gynnig i gael adeilad ysgol uwchradd newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi. Y cynnig yw:
“Adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11–18 oed”
Bydd y cyfnod ymgynghori statudol yn rhedeg o 5 Mehefin 2025 tan 17 Gorffennaf 2025
Beth ydyn ni yn ei ofyn gennych chi
Yn ystod y cyfnod hwn, byddai'r cyngor yn hoffi derbyn eich barn am y cynnig uchod. Bydd unrhyw sylwadau, ymatebion, ac adborth a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu defnyddio i gynhyrchu'r adroddiad ymgynghori ar gyfer sylw'r Pwyllgor Gwaith.
Sut allwch chi roi eich barn i ni?
Arolwg ar-lein
Y dyddiad cau er mwyn ymateb yw 17 Gorffennaf 2025.
Ewch i ffurflen adborth ar-lein - linc yn agor mewn tab newydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Post
Mae fersiwn PDF o'n ffurflen adborth ar y dudalen we hon.
Gallwch ei argraffu, ei lenwi â llaw a'i anfon at:
Rheolwr Rhaglen (Moderneiddio Ysgolion),
Trawsnewid,
Swyddfeydd y Cyngor,
Llangefni,
Ynys Môn
LL77 7TW.
E-bost
Gallwch anfon eich barn atom i ysgolionmon@ynysmon.llyw.cymru erbyn 17 Gorffennaf 2025.
Rhaid derbyn yr holl ymatebion erbyn 17 Gorffennaf 2025.
Ymgynghori wyneb yn wyneb
Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd ymgynghori wyneb yn wyneb fel amlinellir yn y ddogfen ymgynghori:
Cyfarfodydd ymgynghori wyneb yn wyneb
Dyddiad | Lleoliad | Rhaddeiliaid | Amser |
2 Gorffennaf 2025 |
Ysgol Uwchradd Caergybi |
Staff a llywodraethwyr |
4pm i 5pm |
2 Gorffennaf 2025 |
Ysgol Uwchradd Caergybi |
Rhieni, gwarcheidwaid a rhanddeiliaid |
5:30pm i 6:30pm |
Mae'r ddogfen ymgynghori statudol, y ffurflen adborth a'r asesiad effaith ar gael ar y dudalen we hon.
Os oes angen copi caled o unrhyw ddogfen arnoch, cysylltwch â ni trwy e-bostio ysgolionmon@ynysmon.llyw.cymru os gwelwch yn dda.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.