Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar gynigion sy'n ymwneud â bwyd a diod mewn ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru. Rydym hefyd yn galw am dystiolaeth ar y bwyd a ddarperir mewn ysgolion uwchradd.
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych i ddiweddaru:
- pa fwyd a diodydd y gellir eu darparu mewn ysgolion
- canllawiau ar gyfrifoldebau dros hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach
Bydd y newidiadau hyn yn helpu plant i:
- ddatblygu arferion bwyta iach
- cael mynediad at fwyd iachach yn ystod oriau ysgol
- gwneud dewisiadau bwyd iach
Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 29 Gorffennaf 2025.
Ewch i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (safle allanol) - bydd y ddolen yn agor tab newydd