Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cynnal astudiaeth i edrych ar gyflwyno cynllun Strydoedd Ysgol ar draws pob un o’r 44 ysgol yn Ynys Môn.
Mae dwy ysgol bellach wedi eu blaenoriaethu fel rhai addas ar gyfer y cynllun. Yr ysgolion yw:
- Ysgol Gynradd Amlwch
- Ysgol Gymuned Y Fali
Y cam nesaf yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y ddwy ysgol.
Rydyn ni eisiau barn y gymuned leol.
Beth yw cynllun Strydoedd Ysgol?
Menter yw cynllun Strydoedd Ysgol sydd â'r nod o wella diogelwch, ansawdd aer, a lles cyffredinol o amgylch ysgolion.
Mae’n cynnwys cyfyngu dros dro ar fynediad cerbydau modur i’r strydoedd ger yr ysgol yn ystod amseroedd gollwng a chodi plant.
Mae hyn yn sicrhau amgylchedd mwy diogel a thawel i blant gerdded, beicio neu fynd ar sgwter i’r ysgol.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi datblygiad a gweithrediad mentrau Strydoedd Ysgol.
Pryd mae Stryd Ysgol yn weithredol?
Bydd yr amseroedd gweithredol ar gyfer cau’r ffordd yn ystod amseroedd gollwng a chodi plant yn yr ysgol:
Bydd y ffordd yn parhau i fod ar agor i draffig y tu allan i’r amseroedd hyn.
Sut mae’n gweithio
Yn ystod cyfnod cau’r ffordd, bydd rhwystr ar waith i atal pobl rhag gyrru drwy’r ffordd sydd wedi cau yn ystod yr amseroedd gweithredol.
Ni fydd y cyfyngiadau dros dro hyn yn berthnasol i breswylwyr / busnesau sydd â’u heiddo ar unrhyw ffordd o fewn yr ardal gaeedig, gwasanaethau brys, cludiant ysgol, deiliaid bathodynnau glas, danfoniadau, a gofalwyr preswylwyr.
Dweud eich dweud
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod mwy am y cynllun Strydoedd Ysgol. (Bydd y ddolen hon yn agor tab newydd yn eich porwr).
Mae 2 holiadur ar-lein.
Rhieni a phlant
Ewch i'r holiadur ar-lein (yn agor tab newydd) - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Preswylwyr a busnesau
Ewch i'r holiadur ar-lein (yn agor tab newydd) - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Dyddiad cau
Bydd yr holiaduron yn cau ar 28 Mawrth am 5pm.
Sesiwn galw
Bwriedir cynnal sesiwn galw heibio i bob ysgol sydd wedi’i dewis ar gyfer y cynllun. Bydd hyn yn rhoi cyfle i breswylwyr â buddiant gasglu mwy o wybodaeth, dysgu mwy am y fenter Strydoedd Ysgol a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
Noder mai sesiwn galw heibio anffurfiol yw hon yn hytrach na chyfarfod cyhoeddus, ac mae croeso i chi fynychu ar unrhyw amser yn ystod y sesiwn.
Ysgol Gymuned Y Fali
4 Mawrth, 4pm tan 6pm
Ysgol Gynradd Amlwch
5 Mawrth, 3:15 tan 5:30pm
Beth sy’n digwydd nesaf
Ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad, bydd un o’r saith ysgol yn cael ei dewis ar gyfer treial cynllun Strydoedd Ysgol. Bydd yn dechrau yn gynnar yn 2025.
Pam mae eich adborth yn hollbwysig
Bydd yr ysgol a ddewisir yn cael ei dewis yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd yn ogystal â chanlyniadau’r asesiadau unigol. Eich adborth yn hanfodol i’r broses.
Bydd hyd y treial yn cael ei bennu ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad. Ar hyn o bryd, nid oes cyllid ar gael i gyflwyno cynlluniau Strydoedd Ysgol ychwanegol ar draws Ynys Môn, er y ceisir cyllid yn seiliedig ar effaith y treial.