Cyngor Sir Ynys Môn

Rheoli cŵn: Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus


Cefndir

Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gyfrifol am reoli a chynnal mannau cyhoeddus ar draws yr ynys. 

Rydym yn deall bod angen i gŵn gael eu harfer ac mae gennym sawl parc, traeth a man agored i gerddwyr cŵn eu defnyddio. Mae’r rhan fwyaf o berchnogion yn gyfrifol ac yn glanhau ar ôl eu cŵn. Nid ydym am atal perchnogion cyfrifol rhag mwynhau ein mannau agored.

Fodd bynnag, mae pryder cynyddol ynghylch cŵn ar draws Ynys Môn, yn enwedig mewn perthynas â baw cŵn.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC)

Mae gan y cyngor yr awdurdod i weithredu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014.

  • Gall GDMC wahardd neu gyfyngu ar rai gweithgareddau ac mae wedi’i gynllunio i sicrhau bod y mwyafrif sy’n cadw at y gyfraith yn gallu defnyddio a mwynhau mannau cyhoeddus.
  • Mae’n cadw pobl yn ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol megis methu glanhau ar ôl baw cŵn.
  • Byddai GDMC yn disodli’r hen is-ddeddfau a chyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd.
  • Gall GDMC bara am dair blynedd ac os caiff ei dorri, gall swyddog awdurdodedig roi Hysbysiad Cosb Benodedig hyd at £100, a all gynyddu i £1,000 os na chaiff ei dalu.

Dweud eich dweud

Rydym yn gofyn am eich barn ar GDMC rheoli cŵn arfaethedig newydd ar gyfer Ynys Môn.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.

Ewch i'r holiadur ar-lein - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Y cynnig

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn trigolion am GDMC Rheoli Cŵn newydd arfaethedig ar gyfer Ynys Môn.

Mae’r angen am GDMC Rheoli Cŵn wedi codi oherwydd cwynion parhaus am faterion ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â chŵn, megis baw a cherdded cŵn mewn ardaloedd gwaharddedig megis rhai traethau. Mae’r materion hyn yn cael effaith andwyol ar drigolion ac ymwelwyr â chymunedau lleol.

Bydd y GDMC arfaethedig yn berthnasol i ardaloedd penodol o Ynys Môn.

Prif amcanion y GDMC

  • Sicrhau ac annog perchnogaeth gyfrifol o gŵn ar Ynys Môn a galluogi’r cyngor i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â chŵn.
  • Atal baw cŵn, sy’n annymunol ac yn gallu achosi effeithiau peryglus megis toxocariasis, a all arwain at ddallineb.
  • Ffurfioli gwaharddiad cŵn o ardaloedd a ddynodwyd ar gyfer blaenoriaethau eraill, megis traethau.
  • Caniatáu i’r rhai sy’n torri GDMC gael Hysbysiadau Cosb Benodedig os na fyddant yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau rhesymol gan swyddogion megis glanhau ar ôl eu cŵn neu symud eu cŵn o ardaloedd cyfyngedig.
  • Bydd y GDMC arfaethedig yn ddilys am dair blynedd ac yn cael ei adolygu ar ôl y cyfnod hwn. 

Ni fydd y gofynion a’r gwaharddiadau a osodir gan y Gorchymyn hwn yn berthnasol i unrhyw berson sy’n:

  • ganddo anabledd yn ôl ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010 ac nad yw ei anabledd yn caniatáu iddo gydymffurfio â’r Gorchymyn lle mae ei gi tywys neu gi cymorth, y mae’n dibynnu arno, wedi’i hyfforddi gan elusen gofrestredig briodol; neu
  • yn defnyddio ci gwaith at ddibenion gorfodi’r gyfraith, dyletswyddau milwrol, neu wasanaethau brys statudol (chwilio ac achub)

Rydym yn awyddus i glywed barn holl drigolion Ynys Môn a’r cyhoedd ehangach am y GDMC arfaethedig, y gellir ei weld yn llawn yma:

Yr hyn y mae’r GDMC drafft yn ei gynnwys

Bydd y drafft yn cynnwys gwaharddiad ‘baw cŵn ar dir’, sy’n ei gwneud yn drosedd os nad yw perchnogion cŵn yn clirio baw eu cŵn o dir o fewn pob priffordd gyhoeddus yn yr ardaloedd lle mae’r ffyrdd yn ddarostyngedig i derfyn cyflymder o 30mya neu 20mya. Mae hyn yn cynnwys y ffordd, y palmantau cyfagos a’r ymylon; a:

  • pob tir agored cyhoeddus o fewn ardaloedd dynodedig gan gynnwys tir ysgolion a chaeau chwarae ysgolion a chaeau chwarae eraill a mynwentydd cyhoeddus; a
  • pob tir ysgol a chaeau chwarae cyhoeddus sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r ardaloedd hyn; a
  • tir a ddynodwyd yn benodol, gan gynnwys traethau:
    • Traeth Llanddwyn
    • Penrhos Llanddwyn
    • Bae Malltraeth
    • Traeth Mawr, Aberffraw
    • Rhosneigr
    • Llanfaelog
    • Traeth Llydan Rhoscolyn
    • Borth Wen Rhoscolyn
    • Porth Diana
    • Bae Trearddur
    • Porth Dafarch
    • Traeth Newry
    • Traeth Penrhos Caergybi
    • Porth Penrhyn Mawr Llanfwrog
    • Porth Tywyn Mawr
    • Porth Trefadog
    • Porth Trwyn Llanfwrog
    • Porth Swtan
    • Cemlyn
    • Traeth Bach a Traeth Mawr Cemaes
    • Porth Llechog
    • Porth Eilian
    • Traeth Lligwy
    • Moelfre
    • Traeth Bychan
    • Benllech
    • Traeth Coch
    • Llanddona
    • Biomaris
    • Penmon
    • Parc Morglawdd Caergybi

Tir sydd wedi’i eithrio o’r gorchymyn drafft yn cynnwys:

  • tir preifat
  • priffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 40mya neu uwch
  • coetiroedd
  • gorlifdiroedd
  • rhostiroedd / tir uchel

Gwahardd mynd â chi neu ganiatáu i gi fynd i mewn neu aros yn yr ardaloedd dynodedig ar y traethau canlynol rhwng 1 Mai a 30 Medi bob blwyddyn.

  • Benllech
  • Biomaris
  • Cemaes
  • Llanddona
  • Llanddwyn
  • Porth Dafarch
  • Trearddur