Cyngor Sir Ynys Môn

Map rhwydwaith teithio llesol Ynys Môn – adolygu a diweddaru: ymgynghoriad cyhoeddus


Cam statudol

Pwrpas yr ymgynghoriad

Mae Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) yn adolygu ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) fel rhan o’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) i ddiweddaru’r rhwydwaith cerdded, olwyno a beicio pob 5 mlynedd a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.

Ymgynghorwyd ar y MRhTLl ddiwethaf yn ystod 2021 a cafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022.

Bydd y cam statudol hon o ymgysylltu y cyfle olaf i geisio casglu adborth gan y cyhoedd ar y rhwydwaith presennol a’r llwybrau arfaethedig ym mhob anheddiad, yn ogystal â llwybrau pellter hirach. Mae’r aneddiadau dynodedig yn cynnwys:

  • Amlwch
  • Benllech
  • Holyhead
  • Gaerwen
  • Llangefni
  • Llanfairpwll
  • Porthaethwy
  • Y Fali

Pam mae’r map rhwydwaith teithio llesol (MRhTLl) yn bwysig

Gallwn wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn i weithredu’r llwybrau a nodir ar y MRhTLl. Os nad yw’r llwybrau ar y map, nid ydynt yn gymwys i gael cyllid, felly mae’n bwysig ein bod yn deall beth sy’n bwysig i drigolion Ynys Môn o ran ei rhwydwaith cerdded, olwyno a beicio.

Beth yw teithio llesol

Mae teithio llesol yn cyfeirio at wneud teithiau byr bob dydd drwy gerdded, olwyno a beicio (gan gynnwys cadeiriau olwyn trydan a sgwteri symudedd). Mae’r diffiniad o daith teithio llesol yn cynnwys teithio i’r gwaith, yr ysgol a sefydliadau addysgol eraill, siopau, cyfleusterau hamdden a chyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus.

Beth yr ydym eisiau ei wybod gennych chi

  • A ydym wedi nodi’r llwybrau cywir i’w gwella (llwybrau dyfodol)?
  • A ydym yn gywir yn ein hasesiad o’r llwybrau sy’n cydymffurfio â’r safonau a gytunwyd (y llwybrau presennol)?
  • A ydym wedi nodi’r holl lwybrau newydd addas, gan gynnwys unrhyw lwybrau uniongyrchol y mae pobol yn eu defnyddio neu cysylltiadau coll o fewn yr aneddiadau dynodedig?

Dweud eich dweud

Rhowch eich barn ar y map rhwydwaith teithio llesol, ac os ydych yn cytuno â’r llwybrau teithio llesol arfaethedig, ac a fyddent o fudd i chi.

Mae hwn hefyd yn gyfle i chi rannu eich barn am ba welliannau eraill sydd eu hangen. Byddem yn ddiolchgar pe baech yn cwblhau’r arolwg ar-lein.

Ewch i'r ymgynghoriad ar-lein - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 26 Awst 2026. 

Beth sy'n digwydd nesaf

Byddwn yn casglu pob un o’ch sylwadau oddi ar ein teclyn mapio ar-lein.

Yn dilyn y rownd hwn o ymgysylltu, byddwn yn gwneud gwelliannau pellach i'n drafft rhwydwaith cyn terfynu’r map. Byddwn yn cyflwyno'r MRhTLl diwygiedig terfynol i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2026.

Gellir trefnu copïau papur o’r map rhwydwaith a’r arolwg i bobl heb fynediad at y deunyddiau ymgysylltu ar-lein.

Gwybodaeth bellach

Ffôn: 01248 752 300
E-bost: teithiollesol@ynysmon.llyw.cymru