Cefndir
Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sy'n byw, yn gweithio, yn astudio, neu'n treulio amser yng Nghaergybi am eich profiadau a'ch canfyddiadau o'r dref.
Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall beth mae Caergybi yn falch ohono heddiw a'r hyn sy'n bwysig i'w dyfodol.
Beth sy'n digwydd ar ôl yr ymgysylltiad
Byddwn yn adolygu'r holl ymatebion, yn nodi'r themâu allweddol, a'u defnyddio i lunio gwaith yng Nghaergybi yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn rhannu crynodeb byr "yr hyn a glywsom" fel y gall pobl weld sut mae eu mewnbwn yn cael ei ddefnyddio.
Holiadur
Mae gennym holiadur ar-lein sy'n cysylltu o'r dudalen hon.
Mae'r holiadur mewn dwy ran - Adran A ac Adran B.
Rydyn ni'n meddwl y dylai gymryd tua 10 munud i ateb y cwestiynau yn Adran A. Dyma'r prif gwestiynau.
Mae Adran B yn cynnwys cwestiynau ychwanegol os hoffech ychwanegu mwy o fanylion – po fwyaf y byddwch chi'n ei ateb, y mwyaf defnyddiol ydyw.
Ewch i'r holiadur
Y dyddiad cau ar gyfer yr holiadur yw 9 Chwefror 2026.