Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn datblygu cartref gofal ychwanegol a phreswyl newydd yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy.
Bydd hyn yn diwallu'r galw cynyddol wrth i boblogaeth Ynys Môn heneiddio, gyda disgwyl i nifer y bobl dros 85 oed godi tua 70% dros y degawd nesaf.
Un o brif fuddion y cynllun yw darparu gofal preswyl arbenigol sy'n gyfeillgar i ddementia ar gyfer de'r ynys.
Fel rhan o'r datblygiad bydd angen adeiladu draen newydd i gael gwared â dŵr wyneb o'r safle.
Mae hyn yn golygu y bydd angen cau ffordd dros dro yn Lôn Pen Nebo, Lôn Las a Ffordd Penclip ym Mhorthaethwy.
Rydym eisiau eich adborth
Rydym yn deall y bydd y cau ffordd hwn yn achosi pryder i drigolion.
Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth sy'n rhesymol bosibl i leihau effaith y cau ffyrdd dros dro.
Darllenwch y ddogfen sydd ynghlwm 'Dogfen ymgynghori ar gau ffyrdd dros dro yn Lôn Pen Nebo, Lôn Las a Ffordd Penclip, Porthaethwy'.
Mae holiadur ar-lein ar ddiwedd y ddogfen lle gallwch ddweud eich dweud am yr opsiynau cau ffyrdd.
Mae ffyrdd eraill i chi roi eich adborth i ni os nad ydych am ddefnyddio ein holiadur ar-lein. Mae'r rhain hefyd wedi'u hegluro yn y ddogfen.