Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn dymuno clywed eich barn am yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol 2023 i 2028 (fersiwn drafft).
Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn cyfuno data amrywiol er mwyn darparu trosolwg cynhwysfawr o anghenion tai ar yr ynys. Mae’n amlinellu maint aelwydydd, y math o lety sydd ei angen, lefelau incwm a manylion allweddol am y farchnad dai, tai fforddiadwy a thai gwag.
Mae’r wybodaeth hon yn holl bwysig er mwyn dylanwadu ar ddogfennau eraill, megis Cynllun Datblygu Lleol y cyngor a’r Strategaeth Dai. Mae hefyd yn helpu’r Cyngor a’i bartneriaid i wneud penderfyniadau gwybodus am ddarpariaethau tai yn y dyfodol. Mae hyn yn sicrhau fod cymysgedd addas o dai ar gael.
Darllenwch yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol drafft ar y dudalen we hon a rhannwch eich adborth.
Mynegwch eich barn
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth yw 13 Ionawr 2025.
Ewch i'r ffurflen adborth ar-lein
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.