Cyngor Sir Ynys Môn

Ardoll ymwelwyr: ymgynghoriad


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ystyried cyflwyno ardoll ymwelwyr ar gyfer pob llety gwyliau a llety dros nos cymwys fel y nodir yn Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 o fewn ardal yr awdurdod lleol o 1 Hydref 2027.

Bydd hyn ar gyfer pob darparwr llety y bydd yn rhaid iddynt gofrestru ar gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety.

Mae twristiaeth yn parhau i fod o bwys economaidd aruthrol i Ynys Môn, gan gadw dros 3,500 o weithwyr mewn busnesau sy'n gysylltiedig ag ymwelwyr, a chynhyrchu dros £360 miliwn yn flynyddol.

Fodd bynnag, mae natur y cynnyrch a'i effaith ar yr ynys yn esblygu ac mae angen newid i fodel mwy cynaliadwy ac empathig sy'n sicrhau llwyddiant busnes a gwelliannau economaidd wrth gynnal a gwella rhinweddau arbennig yr ynys.

Mae hyn yn cael ei adlewyrchu ledled Cymru, ac am y rheswm hwn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Cofrestr Statudol o ddarparwyr llety a'r opsiwn i awdurdodau lleol weithredu ardoll ymwelwyr (o 2027 ymlaen) i gyfrannu at fodel twristiaeth fwy cynaliadwy ac i godi refeniw ychwanegol i'w ail-fuddsoddi.

Mae'r cynigion wedi cael eu dylanwadu a'u llywio gan enghreifftiau o arfer da o wledydd eraill gan gynnwys tir mawr Ewrop lle mae ardoll ymwelwyr yn gyffredin.

Nid yw cyflwyno'r ardoll yn ofyniad statudol ac ni fydd yn ddull cyffredinol ar draws Cymru gyfan. Gofynnir i bob awdurdod lleol ymgynghori'n ffurfiol ar y cyflwyniad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ffurfiol ynghylch a ddylid cyflwyno'r ardoll ai peidio (ar sail sir wrth sir).

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn deall bod cyflwyno ardoll o'r fath yn dod â manteision ac elfennau negyddol, ac mae angen deall y rhain yn llawn er mwyn galluogi penderfyniad ar gyflwyno'r ardoll. Mae'r broses ymgynghori yn hanfodol i'r broses benderfynu hon ac rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n cymryd yr amser i ymateb i'r ymgynghoriad hwn.

Mae asesiadau effaith economaidd a chydraddoldeb wedi'u cynnal ac maent ar gael i'r cyhoedd i helpu i lywio ymatebion.

Crynodeb Polisi Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr a Lefi) Etc (Cymru)

Ynglŷn â'r ardoll

  • Bydd yr ardoll ymwelwyr arfaethedig yn dreth leol a godir ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr (gwestai, llety gwely a brecwast, bythynnod, meysydd gwersylla ac ati).
  • Mar ardoll ymwelwyr yn cael eu ddefnyddio ledled y byd ac maent yn gyffredin ar dir mawr Ewrop. Gwelir mwy a mwy o enghreifftiau yn y DU gyda'r Alban hefyd yn ceisio datblygu ardoll genedlaethol, a dinasoedd fel Manceinion a Chaeredin eisoes wedi cyflwyno cynlluniau o'r fath.

I bwy fydd y lefi’n berthnasol

Bydd hyn ar gyfer pob darparwr llety y bydd yn rhaid iddynt gofrestru ar gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety.

Byddai dau gyfradd yn cael eu cymhwyso sef:

  • Cyfradd ardoll is - 75 ceiniog y pen y noson ar gyfer:
    • ystafelloedd a rennir mewn hosteli, tai bynciau, bwthyn neu ystafelloedd cysgu
    • lleiniau ar gyfer pebyll (gan gynnwys y rhai dros dro ar gyfer digwyddiadau a gwyliau) 
  • Cyfradd ardoll uwch - £1.30 y pen y noson ar gyfer pob math arall o lety, fel:
    • gwestai, gwely a brecwast, a thai llety
    • llety hunanarlwyo, gan gynnwys:
      • lletyau
      • sialetau
      • bwthynnod
      • llety gwyliau
      • parciau carafanau
      • cytiau bugail
      • safleoedd glampio
      • llety cartref (fel Airbnb)
      • lleiniau ar gyfer carafanau, cartrefi modur neu faniau gwersylla
      • llety dros dro ar gyfer digwyddiadau (megis podiau glampio ar gyfer gwyliau)

Eithriadau

Pryd na fydd disgwyl i chi dalu'r ardoll

  • O dan 18 oed ac yn aros mewn gwersyll pabell neu ystafell a rennir (fel hostel neu ystafell gysgu).
  • Arosiadau am fwy na 31 noson mewn un arhosiad; a
  • Mewn argyfwng neu lety dros dro a drefnir gan gyngor lleol.

Ad-daliadau

Bydd y canlynol yn gymwys i wneud cais am ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru:

  • Pobl anabl sy'n talu costau ardoll ychwanegol pan fydd ganddynt ofalwr.
  • Pobl sy'n ffoi rhag trais domestig.

Cynhyrchu incwm a defnyddio'r adnodd ychwanegol

  • Awgrymir y dylid cyfrifo'r gyllideb arfaethedig ar gyfer Ynys Môn ar ffigur ceidwadol o £1.5m yn y flwyddyn gyntaf y bydd y lefi'n cael ei weithredu'n lleol, ond rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn uwch o ystyried y bylchau yn y data a'r gwahaniaeth enfawr rhwng y ffigurau data a ddefnyddir.
  • Pe bai pob awdurdod lleol yn defnyddio ardoll ymwelwyr, byddai'n cynhyrchu hyd at tua £33 miliwn y flwyddyn ledled Cymru (yn seiliedig ar gyfraddau cytunedig o £0.75 ar gyfer lleiniau gwersylla a hosteli ac £1.30 ar gyfer pob math arall o lety).
  • Caiff refeniw a gynhyrchir mewn ardal awdurdod lleol ei ddychwelyd i'r ardal honno i'w ailfuddsoddi/dosbarthu i gefnogi'r economi ymwelwyr a helpu i reoli effeithiau ymwelwyr.
  • Mae defnyddio'r ardoll wedi'i gyfyngu at ddibenion 'rheoli a gwella cyrchfannau'. Yng nghyd-destun Cymru , mae'r meysydd canlynol wedi'u hamlygu yn y ddeddf:
    • lliniaru'r effaith sydd gan ymwelwyr
    • darparu, cynnal a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau i ymwelwyr eu defnyddio ( p'un a ydynt hefyd i'w defnyddio gan bobl leol ai peidio)
    • hyrwyddo a chefnogi twf economaidd cynaliadwy twristiaeth a mathau eraill o deithio
    • cynnal a hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg

Llywodraethu'r broses

  • Byddai angen ymgynghori ymlaen llaw â busnesau lleol, rhanddeiliaid a chymunedau cyn gwneud penderfyniad ffurfiol ynghylch a ddylid cyflwyno'r ardoll ai peidio. 
  • Byddai fforwm ardoll ymwelwyr yn cael ei sefydlu gyda busnesau lleol, cymunedau a phartneriaid i helpu i lywio'r broses, sicrhau trafodaeth wybodus, ac ystyried defnydd priodol o adnoddau ychwanegol sy'n deillio o'r ardoll.
  • Byddai Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli'r ardoll ymwelwyr, gan drosglwyddo refeniw i awdurdodau lleol ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (Ebrill).
  • Bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn didynnu costau gweithredol parhaus o'r refeniw hwnnw a dderbynnir.
  • Byddai angen i'r awdurdod lleol gynnal adolygiad blynyddol a chyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru ar ddefnydd priodol o'r adnodd ychwanegol.

Dweud eich dweud

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 13 Gorffennaf 2026.

Ewch i'r holiadur ar-lein

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at twristiaeth@ynysmon.llyw.cymru

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.