Cefndir
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi nodi ymrwymiad clir i ddiogelu'r amgylchedd a lleihau ein hôl troed carbon yn Cynllun y Cyngor 2023 i 2028.
Mae ôl-troed carbon yn golygu cyfanswm y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir o ganlyniad i weithgareddau dynol. Mae’n dangos faint mae unigolyn, cynnyrch neu sefydliad yn ei gyfrannu i newid hinsawdd.
Mae ailgylchu yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith i leihau ein hôl-troed carbon. Gallwn helpu i greu ynys lanach, fwy gwyrdd ar gyfer ni ein hunain a chenedlaethau'r dyfodol. Gallwn wneud hyn dryw leihau’r gwastraff sy’n mynd i gael ei waredu.
Targedau ailgylchu gan Lywodraeth Cymru
Rhaid i bob cyngor yng Nghymru gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70%. Gall cynghorau dderbyn dirwy os ydynt ddim yn cyraedd y targed.
Mae 'Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2024 i 2029' Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu cyfraddau ailgylchu a chyrraedd y targed o 70%.
Ar hyn o bryd 65% o wastraff Ynys Môn sy’n cael ei ailgylchu. Yn seiliedig ar y gyfradd ailgylchu hon, gallai'r Cyngor Sir Ynys Môn wynebu dirwy o tua £350k y flwyddyn. Mae hyn yn arian gall ei wario ar wasanaethau hanfodol.
Ein sefyllfa bresennol
Mae ymchwil a data diweddar yn dangos y gall tua 52% o'r gwastraff sydd wedi'i roi mewn biniau du ar Ynys Môn gael ei ailgylchu.
Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn gymharol isel o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Rydym hefyd yn gwybod fod rhai aelwydydd yn gweld storio cardfwrdd dros ben yn broblem.
Mae tystiolaeth gan gynghorau eraill yng Nghymru yn dangos bod rhoi mwy o gyfleoedd i aelwydydd ailgylchu, tra'n lleihau faint o le sydd ar gael ar gyfer gwastraff cyffredinol sy’n mynd i’r bin du yn arwain at gyfraddau ailgylchu uwch.
Er mwyn ailgylchu cymaint ag y gallwn, mae 'Glasbrint Casglu' Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai aelwydydd gael un bag du safonol llawn (60 litr) neu lai yr wythnos.
Ar hyn o bryd mae gan y rhan fwyaf o aelwydydd Ynys Môn bin du 240 litr sy'n cael ei gasglu unwaith bob 3 wythnos.
Sut ydyn ni eisiau newid casgliadau ailgylchu a gwastraff
Rydym am wneud ailgylchu yn haws ac yn fwy cyfleus i drigolion. Drwy wneud hyn, byddwn yn bodloni targedau ailgylchu cenedlaethol ac yn osgoi dirwyon mawr.
Rydym yn ystyried:
- addasu cyfluniad y bocs troli er mwyn casglu papur a chardfwrdd gyda'i gilydd
- darparu cynwysyddion ychwanegol i aelwydydd i storio ailgylchu ychwanegol
- lleihau faint o wastraff a gesglir pob wythnos trwy wagio biniau du bob 4 wythnos yn hytrach na phob 3 wythnos
Y cynharaf y gallai unrhyw newid i'r gwasanaeth casglu ddechrau fyddai 2029. Mae hyn oherwydd bydd rhaid i ni brynu cerbydau newydd a gwneud newidiadau i’n safleoedd gwastraff ac ailgylchu.
Hoffem glywed eich barn
Rydym yn deall bod gan wahanol aelwydydd anghenion gwahanol a bod yn bosib bod pryderon gennych am unrhyw newidiadau.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i chi rannu eich barn. Rydym eisiau deall sut rydych chi’n teimlo am yr hyn yda ni eisiau wneud, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Bydd eich barn yn ein helpu i:
- lunio gwasanaeth sy’n bodloni anghenion trigolion Môn
- cefnogi ein hymrwymiad i warchod yr amgylchedd a lleihau ein hôl-troed carbon
- cyrraedd targed ailgylchu 70% Llywodraeth Cymru
Holiadur ar-lein
Treuliwch ychydig funudau’n cwblhau’r holiadur. Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni.
Bydd yr holiadur yn cau am 11.59pm ar 17 Chwefror 2026.
Ewch i'r holiadur ar-lein
Sesiynau galw heibio
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus hefyd yn cynnwys nifer o sesiynau galw heibio i lyfrgelloedd yr ynys ar gyfer aelodau o'r cyhoedd.
Sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori ar ailgylchu a gwastraff
| Lyfrgell | Dyddiad | Amser |
| Amlwch |
13 Ionawr 2026 |
10am tan 12pm |
| Biwmares |
16 Ionawr 2 2026 |
10am tan 12pm |
| Benllech |
20 Ionawr 2 2026 |
1pm tan 3pm |
| Caergybi |
21 Ionawr 2 2026 |
11am tan 1pm |
| Llangefni |
26 Ionawr 2 2026 |
2pm tan 4pm |
| Porthaethwy |
5 Chwefror 2026 |
1pm tan 3pm |
| Rhosneigr |
5 Chwefror 2026 |
10am tan 12pm |