Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Rheoli Cyrchfan 2023 i 2028: Ymgynghoriad â rhanddeiliaid


Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Mehefin 2023

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn awyddus i glywed gan unigolion, grwpiau, sefydliadau a rhanddeiliaid eraill er mwyn casglu mewnbwn a pharatoi ar gyfer dyfodol y maes twristiaeth a’r economi ymwelwyr yn ein rhanbarth hyd at 2028, wrth i ni ddatblygu dull newydd ar gyfer Rheoli Cyrchfan a chreu Cynllun a Phartneriaeth Rheoli Cyrchfan newydd.

Y cynllun

Mae’r cynllun newydd hwn yn rhannu gwybodaeth am gryfderau’r rhanbarth, ardaloedd sy’n profi heriau neu rwystrau i’w goresgyn a chyfleoedd prosiect sy’n cymryd blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol. Mae’r economi ymwelwyr yn newid yn barhaus, felly mae’n hollbwysig ein bod yn cydbwyso anghenion preswylwyr, cymunedau ac ymwelwyr, yn ogystal â bod yn ystyriol o rinweddau arbennig ar Ynys Môn, sef y rheswm fod pobl yn dod i ymweld yn y lle cyntaf.

Bydd eich mewnbwn yn cyfrannu at y strategaethau ehangach ar gyfer y rhanbarth, fydd yn adnabod y gweithgarwch hanfodol ar gyfer gwella profiad ymwelwyr a’r economi ymwelwyr leol wrth symud ymlaen. Bydd hefyd yn sicrhau bod ein hamgylcheddau’n cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â chyflawni ein nod o ddod yn garbon niwtral.

Mae gan y Cynllun Rheoli Cyrchfan hefyd ddylanwad sylweddol ar ymyriadau a blaenoriaethau cyllido ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol wrth symud ymlaen.

Defnyddir yr adborth a ddarperir drwy’r broses ymgynghori hon i ddatblygu’r strategaeth o fewn Cynllun Rheoli Cyrchfan Ynys Môn 2023 i 2028.

Mae’r cynllun rheoli hwn yn gweithio ar y cyd â’r Cynllun Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, sydd hefyd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, rydych yn caniatáu Cyngor Sir Ynys Môn i storio’ch atebion, a’u defnyddio fel y nodir yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Dweud eich dweud

Darllenwch y cynllun

Darllenwch y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft 2023 i 2028.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.

Cwblhewch yr arolwg ar-lein

Ar ôl darllen y cynllun, cwblhewch ein harolwg ar-lein.

Dyddiad cau: 9 Mehefin 2023

Ewch i arolwg Cynllun Rheoli Cyrchfan 2023 i 2028