Cyngor Sir Ynys Môn

Ymgynghoriad ar gyllideb refeniw 2024 i 2025


Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Chwefror 2024

Ymgynghoriad gwreiddiol

Her ariannol

Yn yr un modd â busnesau a thrigolion eraill Ynys Môn, mae’r argyfwng costau byw wedi creu her ariannol sylweddol i’r cyngor.

Mae prif gontractwyr y cyngor (darparwyr casgliadau gwastraff, prydau bwyd ysgol, cynnal a chadw priffyrdd, cartrefi preswyl a nyrsio, a gofal gartref) yn wynebu costau cynyddol ac mae’r rhain yn cael eu trosglwyddo i’r cyngor.

Mae costau eraill hefyd wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 2 flynedd diwethaf, yn enwedig costau ynni. Mae’r cyngor wedi gorfod ariannu dyfarniadau tâl cenedlaethol a newidiadau i gyfraddau cyfraniadau pensiwn. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r cyngor wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol oedolion a phlant ac atal digartrefedd, ac mae hyn wedi creu pwysau ariannol ychwanegol. 

Sefyllfa debyg ar gyfer pob cyngor

Yr un yw’r pwysau ar holl gynghorau Cymru.

Fodd bynnag, mae ein sefyllfa yma rhywfaint gwell nag y sefyllfa yn Lloegr, lle mae nifer o gynghorau eisoes wedi datgan eu hunain yn fethdalwyr ac eraill yn rhybuddio y byddant hwythau hefyd yn yr un sefyllfa o fewn y ddwy flynedd nesaf. 

Grant Llywodraeth Cymru

Mae’r cyngor dan rwymedigaeth gyfreithiol i osod cyllideb sydd wedi’i hariannu’n llawn gan grant Llywodraeth Cymru, y Dreth Gyngor a chronfeydd ariannol y cyngor ei hun. Yn 2023 i 2024, cafodd 71% o gyllideb refeniw net y cyngor ei hariannu gan grant Llywodraeth Cymru.

Er mwyn darparu gwasanaethau o’r un safon gyda’r costau sydd wedi’u hamcangyfrif ar gyfer 2024 i 2025, ac ymdopi â’r cynnydd mewn galw am wasanaethau, rhagwelir y bydd rhaid i gyllideb refeniw net y cyngor ar gyfer 2024 i 2025 gynyddu £14.4m, sy’n 8.25% yn uwch na 2023 i 2024.

I ychwanegu at hyn, bydd y grant mae’r cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn cynyddu dim ond 2.5%. I ariannu’r gyllideb yn llawn drwy ddefnyddio’r Dreth Gyngor, byddai angen ei gynyddu 30%.  

Ceisio cyfyngu ar y cynnydd yn Nhreth y Cyngor

Gosodwyd cyllideb arfaethedig y cyngor i geisio cyfyngu’r cynnydd yn y Dreth Gyngor, yn ogystal â cheisio diogelu gwasanaethau’r rheng flaen rhag toriadau sylweddol, a sicrhau hyfywedd ariannol y cyngor.

Oherwydd hyn, mae’r cynnig yn lleihau’r gyllideb refeniw net o £4.8m, gan ddefnyddio £4.4m o arian wrth gefn a chronfeydd y cyngor, a chynyddu’r Dreth Gyngor 9.78%.

Bydd cynyddu’r Dreth Gyngor o 9.78% (ynghyd â 1.12% i gwrdd ag ardoll y Gwasanaeth Tân) yn cynhyrchu £5.2m o incwm ychwanegol ar gyfer y cyngor. Hefyd, bydd y ffi ar gyfer eiddo Band D yn cynyddu £156.51, neu £3.01 yr wythnos. Er, bydd Ynys Môn yn parhau i gynnig un o’r cyfraddau Band D isaf yng Nghymru.

Cronfeydd ariannol y cyngor

Bydd y cynnig yn gadael y cyngor gydag oddeutu £9.5m o falansau cyffredinol, sy'n cyfateb i 5% o'r gyllideb refeniw net ar gyfer 2024 i 2025. Er y gall lefel y balansau cyffredinol fod yn is na'r ffigwr yma, byddai gostwng lefel y cronfeydd wrth gefn o dan y ffigwr yma’n cynyddu'r risg y gallai'r cyngor ddod yn fethdalwr. 

Dweud eich dweud

Hoffem wybod eich barn ynghylch sut ddylai’r cyngor fynd i’r afael â sefyllfa’r gyllideb.

Mae’r cyngor eisiau casglu’ch safbwyntiau ar ei gynigion cyn gwneud penderfyniad terfynol ym mis Mawrth 2024 ar gyllideb y cyngor a lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2024 i 2025.

Arolwg ar-lein

Gellir dod o hyd i’r adroddiad manwl ar gynigion y cyngor mewn perthynas â’r gyllideb cyn ateb yr holiadur. Bydd yr adroddiad hwn yn agor tab newydd yn eich porwr.

Mae'r arolwg yn ddienw ac ni ofynnir i chi ddweud pwy ydych chi na ble rydych chi'n byw.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw Dydd Gwener 9 Chwefror 2024.

Arolwg wedi cau