Cyngor Sir Ynys Môn

Ymgynghoriad Parc Cymunedol Porth Amlwch


Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Medi 2023

Camau nesaf 

  • Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn adolygu adborth o'r ymgynghoriad hwn.
  • Bydd Cais Sgrinio Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) yn cael ei gyflwyno i benderfynu a yw’r prosiect arfaethedig yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.
  • Bydd gwaith asesu technegol pellach yn cael ei wneud.
  • Statutory Bydd Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais yn cael ei lansio.
  • Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn adolygu adborth o’r Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais.
  • Bydd cais cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig, a chais System Ddraenio Cynaliadwy yn cael eu cyflwyno.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn dymuno clywed eich barn ar y cynlluniau arfaethedig i ddod â thir Y Gymdeithas, sydd i’r gorllewin o Borth Amlwch, yn ôl i ddefnydd fel tir parc cymunedol.

A photo of the derelict windmill in Amlwch Port next to artist's impression of the windmill as part of the vision for a new community park.

Capsiwn: Llun o'r felin wynt adfeiliedig ym Mhorth Amlwch wrth ymyl argraff arlunydd o'r felin wynt fel rhan o'r weledigaeth ar gyfer parc cymunedol newydd.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar lesiant, cynaliadwyedd a bioamrywiaeth.

Y weledigaeth yw creu man cyhoeddus unigryw, amrywiol, ffyniannus a hygyrch ar gyfer gogledd yr ynys gan gadw’r nodweddion hanesyddol allweddol.

Dweud eich dweud

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn byddwch yn rhoi caniatâd i Gyngor Sir Ynys Môn gasglu a phrosesu eich atebion fel y nodir yn eich hysbysiad preifatrwydd (bydd y ddolen hon yn agor tab newydd yn eich porwr). 

Mae’r prosiect hwn wedi’i ddatblygu gan Gyngor Sir Ynys Môn wedi’i gefnogi gan gyllid Magnox NDA.

Arolwg yn cau ar 6 Medi 2023.

Ewch i'r ymgynghoriad ar-lein
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.