Cyngor Sir Ynys Môn

Teithio llesol: ymgynghoriad Caergybi a Bae Trearddur


Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Tachwedd 2023

Ymgynghoriad gwreiddiol

Pwrpas

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw gofyn eich barn am y cynllun arfaethedig teithio llesol yn ardal Caergybi a Bae Trearddur.

Cefndir

Nod y cynllun hyw gwella darpariaeth teithio llesol, fel rhan o Metro Gogledd Cymru rhwng Caergybi a’r sgwâr ym Mae Trearddur.

Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer y cam cyntaf o’r prosiect yn rhedeg o Barc Manwerthu Caergybi (cylchfan Tesco) i Fae Trearddur. Yn ogystal, bydd cysylltiadau pellach i gyfleusterau allweddol ar hyd y llwybr arfaethedig, gan gynnwys Canolfan Hamdden Caergybi, Parc Cybi a Sgwâr Bae Trearddur.

Bydd y cynllun arfaethedig yn gwneud yr ardal yn un lle byddai’n haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus teithio ar droed neu ar feic.

Dweud eich dweud

Mae cyfle i chi ymuno â ni a rhannu eich barn drwy ein hymgynghoriad wyneb yn wyneb.

Ymgynghori personol

Canolfan Hamdden Caergybi LL65 2UE

18 Hydref 2023, 3:30pm i 7pm.

Ffurflen adborth ar-lein

Y dyddiad cau ar gyfer y ffurflen hon fydd 3 Tachwedd.

Ffurflen adborth

Gwelliannau a awgrymir

Gweler y cynlluniau fel lawrlwythiadau PDF.

Mae’r cynllun hwn yn dangos maint cyffredinol y llwybrau a nodwyd ar gyfer gwelliannau arfaethedig ar gyfer teithio llesol rhwng Caergybi a Bae Trearddur.

Mae’r gwelliannau arfaethedig ar gyfer y llwybr o Ganolfan Hamdden Caergybi tuag at Fae Trearddur ar hyd y B4545 (llwybr gwyrdd ar y cynllun) yn cynnwys mân welliannau megis gosod cyrbiau wedi’u gollwng, a mannau croesi heb reolaeth lle bod angen sicrhau bod y llwybr yn hygyrch i bawb.  

Gweld cynllun

Mae gwelliannau teithio llesol arfaethedig ar hyd y rhan hon o'r llwybr yn cynnwys llwybr aml ddefnydd  ar ddwy ochr yr A5153 o gylchfan Tesco i Barc Manwerthu Caergybi.

Gweld cynllun

Mae gwelliannau teithio llesol arfaethedig ar hyd y rhan hon o'r llwybr yn cynnwys llwybr aml ddefnydd ar ddwy ochr yr A5153 hyd at yr A55 Cyffordd 2.

Gweld cynllun

Mae llwybr aml ddefnydd newydd yn cael ei gynnig ar ddiwedd y llwybr ar wahân presennol, ar draws Ffordd Kingsland ac i fynedfa Canolfan Hamdden Caergybi.

Gweld cynllun

Mae’r llwybr hwn yn cynnig seiclo ar y ffordd, lle cynigir mân welliannau i’r ffordd bresennol trwy gwblhau gwaith cynnal a chadw cyffredinol, clirio llystyfiant a llenwi'r tyllau yn y ffordd. 

Gweld cynllun

Mae’r cynigion i wella darpariaeth teithio llesol ar hyd y llwybr hwn yn cynnwys gwneud mân welliannau sy’n cynnwys gwaith cynnal a chadw cyffredinol, clirio llystyfiant a llenwi’r tyllau yn y ffordd.

Mae’r cynnig seiclo ar y ffordd yn parhau hyd at ddiwedd Lôn Towyn Capel, lle cynigir llwybr aml ddefnydd sy’n dod â beicwyr i mewn i Fae Trearddur tuag at y traeth.

Gweld cynllun

Cynigir llwybr aml ddefnydd o gyffordd Lôn Towyn Capel / B4545 tuag at y Sgwâr ym Mae Trearddur.

Rydym yn cynnig cynnwys croesfan dan reolaeth newydd sydd wedi’i lleoli yng nghyffordd Lôn Isallt / B4545 i wella diogelwch cerddwyr a beicwyr.

Gweld cynllun

Beth sy'n digwydd ar ôl yr ymgynghoriad

Byddwn yn ystyried eich holl sylwadau yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Yn dilyn hynny, defnyddir eich sylwadau i lywio a dylanwadu ar ddyluniad terfynol cynllun teithio llesol Caergybi a Bae Trearddur cyn symud ymlaen i’r cam adeiladu.

Gwybodaeth bellach

Ffôn: 01248 752 300

E-bost: teithiollesol@ynysmon.llyw.cymru