Cyngor Sir Ynys Môn

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg: ymgynghoriad


Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Mai 2023

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y ‘Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg’.

Cyfnod ymgynghori: 31 Mawrth i 5pm, 18 Mai 2023.

Y strategaeth

Mae'r strategaeth ar gael i'w lawrlwytho ar y dudalen hon.

Darllenwch y strategaeth cyn llenwi'r holiadur.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.

Os oes angen copïau caled o unrhyw ddogfen arnoch, cysylltwch â ni trwy e-bostio ysgolionmon@ynysmon.llyw.cymru

Neu drwy cysylltu gyda:

Arwyn Hughes
Gwasanaeth Adnoddau Dynol a Thrawsnewid
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW

Holiadur

Ar-lein

Ewch i holiadur ar-lein - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Ffyrdd eraill o lenwi'r holiadur

Gallwch lawrlwytho'r ddogfen Word 'Ffurflen ymateb' ar y dudalen hon. Mae manylion sut y gallwch anfon y ffurflen Word atom wedi'u rhestru ar ddiwedd y ffurflen.

Mae pob dogfen hefyd ar gael yn Saesneg / All documents are also available in English.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.