Cyngor Sir Ynys Môn

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llyn Maelog: Arolwg o'r llwybr bordiau pren


Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Tachwedd 2024

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn cyllid ar gyfer gosod llwybr bordiau o blastig wedi’i ailgylchu yn lle’r un pren presennol yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llyn Maelog, gan y byddai’n fwy gwydn ac yn para’n hirach, ac yn golygu y byddai angen gwneud llai o waith cynnal a chadw.

Mae’r llwybr bordiau pren presennol yn 16 oed ac angen ei drwsio’n rheolaidd erbyn hyn.

Bydd yr arolwg hwn yn caniatáu i ni gasglu adborth a data allweddol a fydd yn gwella’r profiad i ymwelwyr. 

Ewch i'r holiadur ar-lein - bydd y ddolen yn agor tab newydd