Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Mai 2024.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Pwrpas
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am eich barn am y cynllun teithio llesol arfaethedig (cerdded a beicio) yn Amlwch.
Cefndir
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cynnal gweithgareddau yn unol â’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a oedd yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddeall pa rwystrau cerdded a beicio sy’n bodoli yn y tref ar hyn o bryd ac i nodi coridorau allweddol i’w gwella. Rydym bellach yn gweithio ar gam nesaf y gweithgareddau datblygu ar gyfer y cynllun, gyda’r nod o nodi’r gwelliannau Teithio Llesol a ffafrir ar gyfer pob coridor.
Nod y Cynllun cyffredinol yw hyrwyddo a blaenoriaethu teithiau Teithio Llesol rhwng cyrchfannau allweddol a chymunedau yn Amlwch. Mae camau blaenorol WelTAG wedi nodi llwybrau sy'n cysylltu cyfleusterau cymunedol allweddol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones
- Canolfan Hamdden Amlwch
- Parc Busnes Amlwch
- Porth Amlwch
- canol y dref
Byddai’r Cynllun yn gwella’n sylweddol y ddarpariaeth o seilwaith teithio llesol ar hyd cyfanswm o 2.8km o lwybrau yn Amlwch.
Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol.
Dweud eich dweud
Gallwch rannu eich syniadau am gynllun teithio llesol arfaethedig Amlwch trwy cwblhau’r arolwg byr ar-lein.
Bydd ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 6 wythnos tan 8 Mai 2024.
Ewch i'r arolwg ar-lein am ymgynghoriad teithio llesol Amlwch
Beth sy'n digwydd nesaf
Byddwn yn casglu’r holl ymatebion i’r arolwg.
Defnyddir eich ymatebion i lywio a dylanwadu ar ddyluniad terfynol cynllun Teithio Llesol Amlwch.
Gellir trefnu copïau papur o’r arolwg ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at y deunyddiau ymgysylltu ar-lein.
Gwybodaeth bellach
Ffôn: 01248 752 300
E-bost: TeithioLlesol@ynysmon.llyw.cymru