Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Hydref 2023
Ymgynghoriad gwreiddiol
Arolwg ar gyfer trigolion Ynys Môn yw hwn.
Cynllun Strategol Adnoddau a Gwastraff 2023 i 2028
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi paratoi Cynllun Strategol Adnoddau a Gwastraff newydd sy’n nodi sut y mae’n bwriadu lleihau gwastraff o gartrefi ac ailddefnyddio ac ailgylchu mwy ohono.
Dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chymorth ein trigolion, rydym wedi llwyddo i leihau’r gwastraff yr ydym ni’n ei gynhyrchu ac ailgylchu mwy ohono. Ond mae mwy y gallwn ni ei wneud o hyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o wastraff o gartrefi. Rydym yn ailgylchu 64% o’n gwastraff ar hyn o bryd.
Ni allwn gyrraedd y targed hwn heb eich cymorth chi.
Dweud eich dweud
Mae’ch barn yn bwysig iawn i ni felly hoffem glywed gennych chi. Beth ydi’ch barn chi ar ein cynlluniau i leihau gwastraff o gartrefi ac ailddefnyddio ac ailgylchu mwy ohono?
Darllenwch y strategaeth
Darllenwch y dogfen 'Cynllun Strategol Adnoddau a Gwastraff 2023 i 2028' (fersiwn drafft) cyn gwneud yr arolwg.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.
Arolwg ar-lein
Byddwn yn gofyn i chi nodi’ch enw a chyfeiriad e-bost os hoffech gael diweddariad ar hynt y prosiect hwn. Does dim rhaid i chi roi’ch enw a’ch cyfeiriad e-bost; ac fe allwch rannu’ch barn yn ddienw.
Dyddiad cau: 20 Hydref 2023
Ewch i'r arolwg ar-lein
Diogelu Data
Mae diogelu’ch data personol yn bwysig iawn i ni. Byddwn yn cadw’ch data personol dim ond er mwyn anfon gwybodaeth atoch ynglŷn â hynt prosiect gwastraff cartrefi Ynys Môn.