Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn: Ymgynghoriad


Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Mawrth 2023

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae cyfle i bobl leol roi eu barn ar gynlluniau i wella cymunedau Môn a Gwynedd ac i rannu syniadau am sut gall gwasanaethau cyhoeddus gydweithio i’r pwrpas hwn.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn – sy’n cynnwys y ddau Gyngor Sir, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â sefydliadau eraill– wedi llunio ei Gynllun Llesiant Drafft 2023-28 gyda’r bwriad o wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.

Mae cyfle i drigolion lleol rannu barn ar y cynnwys drwy lenwi holiadur byr.

Dyddiad cau: 6 Mawrth 2022

Ewch i'r holiadur ar-lein