Cyngor Sir Ynys Môn

Canolfan Morswyn, Caergybi: Ymgynghoriad


Daeth yr holiadur hwn i ben ar 1 Rhagfyr 2023

Gwybodaeth wreiddiol

Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn chi am ein gwasanaethau dydd yng Nghaergybi.

Rydym eisiau gwybod sut y byddech chi'n teimlo am derfynu gweithgareddau dydd yng Nghanolfan Morswyn a chael mwy o weithgareddau mewn mannau eraill yng Nghaergybi.

Dweud eich dweud

Darllenwch y dogfennau ymgynghori ar y dudalen we hon. Mae un o'r dogfennau hyn yn fersiwn hawdd ei darllen.

Pan fyddwch wedi darllen y dogfennau, dywedwch wrthym beth yw eich barn.

Gallwch ddefnyddio'r holiadur ar-lein neu gallwch lawrlwytho'r holiadur fel dogfen a'i anfon atom. Mae'r cyfeiriad ar gyfer ei anfon atom yn y ddogfen.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.

Holiadur ar-lein

Y dyddiad cau ar gyfer yr holiadur yw 1 Rhagfyr 2023.

Ewch i'r holiadur ar-lein
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.

Rhybudd preifatrwydd

Mae gennych hawl i wybod am y ffordd y mae gwybodaeth amdanoch yn cael ei ddefnyddio gennym ni.