Cyngor Sir Ynys Môn

Blaenoriaethau Ynys Môn: eich barn


Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Mawrth 2022

Ymgynghoriad gwreiddiol

Cefndir

Fel cyngor sir, mae Ynys Môn am fod y gorau y gallwn fod, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Wrth inni nodi ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, rydym eisiau deall beth sy’n bwysig i chi a sicrhau fod gennych lais yn y broses o lunio blaenoriaethau’r cyngor, gan werthfawrogi bod rhaid blaenoriaethu gwasanaethau statudol.

Dechreuom 2022 trwy ofyn i chi gynnig sylwadau ar ein cynigion ar gyfer y gyllideb ac rydym yn ddiolchgar i’r rheiny ohonoch a gymerodd amser i fynegi eich blaenoriaethau a rhannu eich safbwyntiau gwerthfawr.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, rydym yn dymuno clywed gennych mewn ymateb i weithgaredd ymgysylltu ehangach sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Medrwn Môn, Age Cymru a Dechrau’n Deg, lle byddwn yn ymgysylltu â’n trigolion er mwyn inni ddeall mwy am eich pryderon, eich blaenoriaethau a’ch dyheadau ar gyfer Ynys Môn. Mae eich safbwyntiau’n bwysig iawn i ni fel rhan o’r broses hon.

Yn dilyn y broses, bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio i helpu llunio a dylanwadu ar gynllun y cyngor newydd ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

Dweud eich dweud

Ni ddylai’r holiadur hwn gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau ac mae’n gwbl ddienw.

Mae'n bosibl y bydd eich ymatebion yn cael eu cyhoeddi a'u rhannu â'r sefydliadau trydydd parti a restrir uchod, felly peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth adnabyddadwy.

Rydym wedi cynnwys ffurflen monitro cydraddoldeb ddewisol fer ar y diwedd i chi ei chwblhau os dymunwch.

Dyddiad cau: 18 Mawrth 2022