Cyngor Sir Ynys Môn

A5 Llanfairpwll Cynllun Teithio Llesol: ymgynghoriad


Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Chwefror 2023

Ymgynghoriad gwreiddiol

Pwrpas

An image of people walking on a pavement next to a road with a lorry on it.Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw gofyn eich barn am y cynllun arfaethedig Teithio Llesol A5 Lôn Graig i Lôn Refail (cerdded a beicio).

Cefndir

Nid yw'r ddarpariaeth bresennol o droedffordd ar hyd Lôn Graig i Lôn Refail yn cydymffurfio â safonau Teithio Llesol yn bennaf oherwydd nad yw’r droedffordd yn ddigon llydan, diffyg uchder ymyl y pafin, diffyg parth diogelwch i’r ochr yn ogystal â gwelededd gwael.

Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys lledu'r llwybr presennol tua 1.3m o led i lwybr aml-ddefnydd 3m o led. Y bwriad yw gwneud hi’n haws, yn fwy diogel, ac yn fwy cyfleus i fynd o gwmpas yr ardal ar droed, ar feic, ac i gael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.

Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol.

Dweud eich dweud

Gallwch rannu eich syniadau am Lwybr Teithio Llesol A5 arfaethedig Llanfairpwll trwy glicio ar y ddolen isod a chwblhau’r arolwg byr.

Daeth yr arolwg ar-lein i ben 15 Chwefror 2023.

Beth nesaf?

Byddwn yn casglu eich holl ymatebion o'r arolwg.

Defnyddir eich ymatebion i lywio a dylanwadu ar ddyluniad terfynol llwybr Teithio Llesol arfaethedig yr A5 Llanfairpwll.

Gellir trefnu copïau papur o’r arolwg ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at y deunyddiau ymgysylltu ar-lein.

Gwybodaeth bellach

Ffôn: 01248 752 300

E-bost: TeithioLlesol@ynysmon.llyw.cymru