Cronfa’r Cyfamod
Mae Cronfa’r Cyfamod yn annog cefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog.
Pwrpas Cronfa’r Cyfamod yw annog cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog sy’n gweithio ac yn byw ar Ynys Môn ac i gydnabod a chofio’r aberth a wnaed gan aelodau cymuned y lluoedd arfog, yn enwedig y rhai sydd wedi rhoi eu bywydau.
Os ydych chi’n aelod o’r lluoedd arfog (rheolaidd neu wrth gefn), yn gyn-filwr, yn aelod o’r teulu neu’n weddw/gweddw, mae Cyngor Sir Ynys Môn a’i bartneriaid wedi ymrwymo i ddarparu mynediad hawdd at y gefnogaeth a’r hawliau y mae gennych hawl iddynt.
Cefnogi prosiectau lleol
Mae Cronfa’r Cyfamod yn darparu cefnogaeth ariannol i brosiectau ar y lefel leol, sy’n cryfhau’r cysylltiadau neu’r ddealltwriaeth gydfuddiannol rhwng aelodau cymuned y lluoedd arfog a’r gymuned ehangach y maent yn byw ynddi.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan llywodraeth y DU.
Sut i ddod o hyd i gymorth
Mae ystod eang o wasanaethau wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer cymuned y lluoedd arfog ar gael gan y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a’r trydydd sector, ond yn aml gall fod yn anodd dod o hyd i’r sefydliadau gorau i helpu.
Darganfod mwy