Gweledigaeth y cyngor yw creu Ynys Môn fydd yn iach a llewyrchus. Mae cydweithio yn allweddol i wireddu ein gweledigaeth.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i weithio gyda'i drigolion, cymunedau, sefydliadau, undebau llafur a rhanddeiliaid i annog pobl i gyfrannu at brosesau gwneud penderfyniadau llywodraeth leol.
Byddwn yn eich cefnogi i gymryd rhan.