Cyngor Sir Ynys Môn

Cwyn swyddogol: sut i gwneud cwyn


Pwysig: cyn i chi wneud cwyn swyddogol

Mae'n bwysig darllen yr holl gynnwys ar y dudalen hon cyn i chi wneud cwyn swyddogol.

Gall cwyn i Gyngor Sir Ynys Môn fod ynglŷn â:

  • y cyngor ei hun
  • person sy'n gweithredu ar ran y cyngor
  • partneriaeth sydd gan y cyngor â pherson neu sefydliad arall

Diffiniad o gwyn

Mae cwyn :

  • yn fynegiant o anfoddhad neu bryder
  • ar lafar neu’n ysgrifenedig neu wedi ei wneud drwy unrhyw ddull cyfathrebu arall
  • wedi ei wneud gan un aelod o’r cyhoedd neu ragor
  • yn ymwneud â’r hyn a wnaed neu’r hyn na wnaed gan y Cyngor
  • yn ymwneud â safon gwasanaeth a ddarperir

Beth nad yw'n gwyn

Nid yw cwyn:

  • adrodd am broblem am y tro cyntaf (er enghraifft golau stryd diffygiol)
  • cais dechreuol am wasanaeth, fel adrodd am dipio am y tro cyntaf
  • cais cyntaf am wybodaeth, neu eglurhad am bolisïau neu benderfyniadau Cyngor Sir Ynys Môn
  • cynrychiolaeth am rinweddau polisi penderfyniadau’r Cyngor Sir Ynys Môn (er enghraifft, gosod taliadau rhent)
  • herio ‘penderfyniadau a wnaed yn briodol’ lle mae hawl statudol i apelio
  • mecanwaith ar gyfer lobio neu ffordd o geisio newid deddfwriaethol
  • gwneud cwyn am sŵn
  • adrodd am gasgliad gwastraff biniau a fethwyd
  • adrodd am y tro cyntaf am ddraeniau wedi blocio
  • adrodd am broblem ar y priffyrdd, megis tyllau yn y ffordd, gwaith ffordd, palmantau ac ati
  • hysbysiad cosb benodedig neu hysbysiad tâl
  • cais dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • cwyn sydd wedi cael ei ymchwilio’n flaenorol dan y weithdrefn gwyno hon, neu weithdrefn flaenorol
  • cwyn sy’n cael ei ymchwilio, neu sydd wedi cael ei ymchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Adroddwch am broblem (nid cwyn swyddogol) - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Polisi cwynion

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn bolisi cwynion corfforaethol .

Cwyn cyffredinol, ymholiad neu sylw 

Fel arfer, gellir delio â chwynion ar unwaith drwy gael gair â'r person sy'n darparu'r gwasanaeth. Gallai hyn fod yn dderbynnydd, staff yn y ganolfan hamdden leol, gyrrwr fan neu weithwyr ffordd.

Os oes gennych gŵyn gyffredinol, ymholiad neu sylw am Gyngor Sir Ynys Môn neu am wasanaethau’r cyngor, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Gwneud cwyn swyddogol

Os na ellir datrys eich problem yn y fan a’r lle, y ffordd gyflymaf o wneud cwyn swyddogol yw ei chofnodi ar-lein.

Gallwch hefyd wneud cwyn swyddogol:

  • dros y ffôn ar 01248 752 588
  • gan ysgrifennu at y Swyddog Cwynion, Adain Gyfreithiol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW

Mae copïau o’r ffurflenni ar pamffledi gwybodaeth ar gael yn holl adeiladau’r cyngor.

Gwasanaethau cymdeithasol 

Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol weithdrefn adrannol statudol.

Adran addysg

Cwynion ynglŷn ag ysgolion

Ni allwn ymateb i gwynion am ysgolion unigol. Mae Deddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu bob ysgol a gynhelir yng Nghymru sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion gan rieni, disgyblion, staff, llywodraethwyr ac aelodau o’r gymuned leol.

Bydd gan yr ysgol bolisi/gweithdrefn gwynion ar gael ar wefan yr ysgol neu drwy gysylltu â’r ysgol.
Yn y lle cyntaf, dylech drafod y cwyn â’r pennaeth, a fydd hefyd yn gallu rhoi mwy o gyngor i chi ynglŷn â threfn gwyno’r ysgol. Mae’n rhaid i unrhyw bolisi cwynion ysgol gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru (Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion: Cylchlythyr 011/2012), sy’n weithdrefn tri cham:

Cam A

Os oes gennych bryder, yn aml gallwch ei ddatrys yn gyflym drwy siarad â'r pennaeth. Dylech ddisgwyl ymateb o fewn 10 diwrnod ysgol ond os nad yw hyn yn bosib, dylai'r ysgol gytuno ar amserlen ddiwygiedig gyda chi. Bydd y person sy'n goruchwylio eich cwyn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddiweddariadau.

DS Os yw'r gŵyn am y pennaeth yna dylid rhoi eich cwyn yn ysgrifenedig at gadeirydd y llywodraethwyr yn uniongyrchol gyda chyfeiriad yr ysgol arni.

Cam B

Os credwch nad yw’ch cwyn gwreiddiol wedi’i datrys, neu fod yr ysgol heb ymdrin â hi’n briodol, dylech wneud eich cwyn yn ysgrifenedig i’r pennaeth.

Cam C

Ni ddylid mynd ymlaen i Gam C dim ond mewn sefyllfaoedd eithriadol, gan y dylai fod modd datrys y rhan helaeth o gwynion yng Ngham B. Fodd bynnag, os ydych chi’n dal o’r farn na ddeliwyd yn deg â’ch cwyn, dylech ysgrifennu at gadeirydd y llywodraethwyr, gan ddefnyddio cyfeiriad yr ysgol, ac esbonio’ch rhesymau dros ofyn i bwyllgor cwynion y corff llywodraethol ystyried eich cwyn. Ni fydd rhaid i chi ysgrifennu holl fanylion eich cwyn eto.

Pwyllgor cwynion y corff llywodraethol sy’n penderfynu’n derfynol ar bob cwyn.

Cwynion Deddf Diogelu Data

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn bolisi ar wahân ar gyfer cwynion Deddf Diogelu Data.

Gallwch ddefnyddio’r polisi hwn os:

  • nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym wedi delio â mater diogelu data sy’n ymwneud â chi
  • nad ydych wedi datrys hyn drwy drafod y mater â swyddog y Cyngor sy’n delio â’r mater

Cwynion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg

Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y cyngor â safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ran y cyngor i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, defnyddiwch y weithdrefn hon, os gwelwch yn dda. 

Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg yn uniongyrchol at Gomisiynydd y Gymraeg.