Cyngor Sir Ynys Môn

Gofalwn Cymru


We Care Wales logoMae Gofalwn Cymru yn ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant gan ddenu mwy o bobl gyda'r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn swyddi gofal gyda phlant ac oedolion.

Os ydych yn hoffi gweithio gyda phobl a bod gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau pob dydd, gall gyrfa mewn maes gofal fod yn berffaith i chi. Os oes gennych ymagwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, beth am herio’ch hun gyda swydd sydd yn amrywio bob dydd, ai nawr yw’r amser i chi ddechrau’ch gyrfa newydd?

Gallwch dderbyn unrhyw hyfforddiant ac ennill unrhyw gymwysterau sydd eu hangen arnoch chi yn y swydd, gyda pob math o gyfleon i weithio’n hyblyg yn galluogi chi drefnu gofalu am eraill o’ch cwmpas chi a’ch teulu.Os ydych chi’n meddwl am yrfa yn y maes gofal, ewch i wefan Gofalwn Cymru i ddod o hyd i ddarparwyr lleol sy’n chwilio am bobl fel chi.