Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyniad i Bartneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol


Nod y Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol yw cynnal safon y ddarpariaeth Gofal Cymdeithasol yn Ynys Môn drwy agwedd wedi’i chynllunio tuag at Ddysgu a Datblygu. Mae cyfleoedd hyfforddiant a datblygu yn agored i’r holl sector Gofal Cymdeithasol, er enghraifft: gwirfoddolwyr, rhai sy’n derbyn taliadau uniongyrchol, unigolion â chyfrifoldebau gofalu (Oedolion a gofalwyr ifanc), gweithwyr gofal cymdeithasol ac unigolion sy’n derbyn gofal a chymorth.

Mae cynlluniau gweithlu rhanbarthol a lleol yn eu lle sy’n adnabod ac yn diogelu gweithrediad mesurau er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn ddigon mawr, medrus, diogel a phendant er mwyn gallu hyrwyddo llesiant pobl sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys (ond nid yw’n rhestr lawn):

  • Cofrestriad 
  • Llwybrau Gyrfa
  • Gallu a chymwysterau
  • Uwchsgilio unigolion mewn cydymffurfiaeth â chodau o ymarfer proffesiynol o fewn y sector 
  • Cefnogi recriwtio a chadw 

Gellir cysylltu â’r Tîm Datblygu ar y manylion isod: 01248 752986 CareworkforceGweithlugofal@ynysmon.gov.uk

Byddwn yn cyfathrebu â chi drwy Fforymau Partneriaeth, Bwletinau Partneriaeth a e-byst.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ychwanegu eich enw at ein rhestr ddosbarthu anfonwch eich manylion at y tîm drwy'r e-bost uchod.  

Useful links :

Sylwch nad yw'r dogfennau canlynol mewn fformat hygyrch

Archif Bwletin Partneriaeth