Cyngor Sir Ynys Môn

Gwasanaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn yn Apelio am Aelodau Panel


Mae Awdurdod Lleol Ynys Môn a chyrff llywodraethu ysgolion cynradd ac uwchradd Môn yn gwahodd ceisiadau am aelodau newydd i ymuno â’n Paneli Apêl Addysg Annibynnol.

Mae pob panel yn cynnwys tri aelod sy’n annibynnol o’r Awdurdod Lleol. Tasg Panel yw gwrando a phenderfynu ar apeliadau rhieni un ai yn erbyn gwahardd disgybl, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod mynediad i blentyn i’w hysgol ddewisol. Dan gyfraith, mae’n rhaid i’r Panel gynnwys aelodau lleyg ac aelodau â phrofiad addysg.

Gwahoddir mynegiant o ddiddordeb gan bobl o bob cefndir gan mai cynnwys y panel yw aelodau lleyg ac aelodau sydd gan brofiad mewn addysg. Aelod lleyg yw unigolyn heb brofiad personol mewn rheolaeth na darpariaeth addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru profiad fel llywodraethwr ysgol neu mewn capasiti gwirfoddol arall).

Mae’n rhaid i baneli sy’n delio ag Apeliadau Mynediad gael aelod sydd â phrofiad mewn addysg hefyd (unigolyn sy’n gyfarwydd ag amodau addysg yn ardal yr awdurdod lleol neu sy’n rhiant i ddisgybl cofrestredig mewn ysgol). Mae’n rhaid i baneli sy’n delio ag Apeliadau Gwahardd hefyd gael Aelod sy’n Llywodraethwr Ysgol ac Ymarferwr Addysg.

Mae’r gwaith yn ddi-dâl ond telir am unrhyw gostau teithio a darperir unrhyw hyfforddiant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod panel ar gyfer yr Awdurdod gweler y linc isod neu cysylltwch â:

Natalie Davies,
Paneli Apêl Ysgolion,
Cyngor Sir Ynys Môn,
Swyddfeydd y Cyngor,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7TW

(01248) 752898 am ragor o wybodaeth a ffurflen gais. 

Fel arall, e-bostiwch addysgeducation@anglesey.gov.uk 

Ceisiadau am aelodau newydd i ymuno â'n Paneli Apêl Addysg Annibynnol