Cyngor Sir Ynys Môn

Ceisiadau am aelodau newydd i ymuno â'n Paneli Apêl Addysg Annibynnol


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahodd ceisiadau am aelodau newydd i ymuno â’n Paneli Apêl Addysg Annibynnol.

Mae pob panel yn cynnwys tri aelod sy’n annibynnol o’r Awdurdod Lleol. Tasg Panel yw gwrando a phenderfynu ar apeliadau rhieni un ai yn erbyn gwahardd disgybl, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod mynediad i blentyn i’w hysgol ddewisol. Dan gyfraith, mae’n rhaid i’r Panel gynnwys aelodau lleyg ac aelodau â phrofiad addysg.

Gwahoddir mynegiant o ddiddordeb gan bobl o bob cefndir gan mai cynnwys y panel yw aelodau lleyg ac aelodau sydd gan brofiad mewn addysg. Aelod lleyg yw unigolyn heb brofiad personol mewn rheolaeth na darpariaeth addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru profiad fel llywodraethwr ysgol neu mewn capasiti gwirfoddol arall). Mae’n rhaid i baneli sy’n delio ag Apeliadau Mynediad gael aelod sydd â phrofiad mewn addysg hefyd (unigolyn sy’n gyfarwydd ag amodau addysg yn ardal yr awdurdod lleol neu sy’n rhiant i ddisgybl cofrestredig mewn ysgol). Mae’n rhaid i baneli sy’n delio ag Apeliadau Gwahardd hefyd gael Aelod sy’n Llywodraethwr Ysgol ac Ymarferwr Addysg.

Mae’r gwaith yn ddi-dâl ond telir am unrhyw gostau teithio a darperir unrhyw hyfforddiant.

Os oes gennych ddiddordeb a wnewch chi plîs lenwi’r ffurflen cais a’i ddychwelyd i AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru erbyn yr 17eg o Chwefror plîs.

Mae gwybodaeth perthnasol wedi ei atodi:

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.