Cyngor Sir Ynys Môn

Rhybudd statudol: Ysgol Uwchradd Caergybi


Rhybudd statudol yw hwn gan y cyngor o’i fwriad i adeiladu ysgol uwchradd newydd yn lle adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi.

Hysbysir drwy hyn yn unol ag adran 42 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion fod Cyngor Sir Ynys Môn (gelwir “ yr awdurdod lleol” yma), ar ôl ymgynghori â'r cyfryw bersonau ag sy'n ofynnol, yn cynnig:

  • adeiladu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi, Caergybi, Ynys Môn LL65 1NP sydd ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol
  • lleihau capasiti Ysgol Uwchradd Caergybi, a’r nod erbyn 2029 yw iddi fod yn ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Cymraeg a bydd yn cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol ar safle ger Canolfan Hamdden Caergybi, Caergybi, LL65 2YE ar gyfer bechgyn a merched 11 i 18 oed

Cynhaliodd yr awdurdod lleol gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi'r cynnig hwn. Mae adroddiad ar yr ymgynghoriad sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan ymgynghoreion, ymatebion y cynigwyr a barn Estyn ar gael ar wefan yr awdurdod lleol.

Cynigir gweithredu'r cynnig ar 1 Medi 2030. Bydd adeilad Ysgol Uwchradd Caergybi yn parhau i fod yn ysgol gymunedol. Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i fod yr awdurdod derbyn.

Ym Medi 2025, roedd 826 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol Uwchradd Caergybi. Capasiti presennol yr ysgol yw 1,170. Bydd capasiti arfaethedig yr ysgol yn lleihau i 900.

Nifer y disgyblion i'w derbyn ym mhob grŵp oedran perthnasol yn y flwyddyn gyntaf o weithredu'r cynigion fydd 150 ar gyfer blynyddoedd 7 i 11 a 75 ar gyfer blynyddoedd 12 ac 13. Nid oes bwriad newid y math o ddarpariaeth Addysg Dysgu Ychwanegol (ADY).

Bydd disgyblion sy’n mynychu Ysgol Uwchradd Caergybi yn y flwyddyn cyn i’r adeilad ysgol newydd agor yn trosglwyddo i adeilad Ysgol Uwchradd Caergybi, yn amodol ar ddewis y rhieni. Bydd trefniadau cludiant i’r adeilad ysgol newydd arfaethedig yn o ddalgylch bresennol Ysgol Uwchradd Caergybi yn unol â Pholisi Cludiant Ysgol yr awdurdod.

Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynigion cyn pen cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r cynigion hyn, hynny yw erbyn 11:59pm ar 3 Rhagfyr 2025.

Rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau’n ysgrifenedig neu mewn e-bost.

Post

Rheolwr Rhaglen
Adran Trawsnewid
Cyngor Sir Ynys Môn
Pencadlys y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW

E-bost

Gallwch anfon eich gwrthwynebiadau atom i ysgolionmon@ynysmon.llyw.cymru erbyn 11:59pm ar 3 Rhagfyr 2025.

Aaron C. Evans
Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar ran Cyngor Sir Ynys Môn

Dyddiad: 6 Tachwedd 2025

Nodyn esboniadol

(Nid yw’r nodyn esboniadol hwn yn rhan o’r Hysbysiad, yn hytrach, ymgais ydyw i gynnig eglurhad)

Rhybudd statudol yw hwn sy’n dweud y bydd yr awdurdod lleol yn bwriadu adeiladu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi yng Nghaergybi ac y bydd ei chapasiti yn llai sef 900.

Erbyn 2029, y bwriad yw i’r ysgol fod yn ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Cymraeg, ar gyfer bechgyn a merched 11 i 18 oed. Cynigir y bydd yr Ysgol Uwchradd Caergybi newydd yn agor ar 1 Medi 2030.

Mae Polisi Cludiant Ysgol  gyfredol yr awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd sy’n cwrdd â phob un o’r meini prawf canlynol:

  • maent o oedran ysgol orfodol
  • maent yn mynychu’r ysgol agosaf neu’r ysgol a bennir iddynt gan yr awdurdod lleol
  • mae’r daith o’r cartref i’r ysgol yn fwy na 3 filltir