Cyngor Sir Ynys Môn

Rhybudd etholiad: Ynys Gybi


Etholiad cynghorydd dros rhanbarth etholiadol Ynys Gybi ar ddydd Iau, 5 Chwefror 20226.

Nifer y Cynghorwyr i’w hethol yw 1.
  1. Cynhelir etholiad Cynghorydd Sir dros y rhanbarth etholiadol uchod.
  2. Gellir cael papurau enwebu o swyddfeydd y Swyddog Canlyniadau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW ar ddyddiau’r wythnos rhwng 10am a 4pm neu yn electronig drwy ein gwefan.
  3. Rhaid danfon papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW ar unrhyw ddiwrnod o’r diwrnod ar ôl cyhoeddi’r rhybudd hwn, ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 10am a 4pm (ac eithrio gwyliau’r banc) neu’n electronig yn unol á’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflenwi electronig isod ond ddim hwyrach na 4pm ar Ddydd Gwener, 9 Ionawr 2026.
  4. Os bydd yr etholiad yn cael ei hymladd cynhelir y bleidlais ar Ddydd Iau, 5 Chwefror 2026.
  5. Rhaid i geisiadau, diwygiadau neu ddiddymiadau pleidleisiau post newydd a phresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW  erbyn 5pm ar Ddydd Mercher, 21 Ionawr 2026
  6. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Mercher, 28 Ionawr 2026.
  7. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy mewn argyfwng gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW   erbyn 5pm ar Ddydd Iau, 5 Chwefror 2026.
  8. Mae’n rhaid i geisiadau i ychwanegu at gofrestr etholwyr ar gyfer pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni Ynys Môn, LL77 7TW erbyn hanner nos Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2026. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein.

Datganiad cyflwyniadau electronig

Gellir cyflwyno enwebiadau yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad hwn.

  • Gellir cyflwyno papurau enwebu drwy’r cyfeiriad  enwebiadau@ynysmon.llyw.cymru
  • Rhaid i chi gyflwyno eich papur enwebu fel atodiad, dogfennau PDF neu Word sy’n cael eu ffafrio
  • Byddwch yn derbyn ymateb wedi’i hawtomeiddio unwaith y bydd eich enwebiad wedi cyrraedd. 
Pecyn enwebu - bydd y ddolen hon yn agor mewn porwr newydd. - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad er mwyn rhoi gwybod i ymgeiswyr o’u penderfyniad o ran a yw eu henwebiad yn ddilys.

Dylan J Williams
Swyddog Canlyniadau

Dyddiad: 31 Rhagfyr 2025.