Mae Cyngor Sir Ynys Môn eisiau penodi dau leygwr i’w Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Mae’r pwyllgor statudol yma yn elfen hollbwysig o fframwaith llywodraethu a rhaglen wella’r cyngor.
Beth mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei wneud
Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw darparu sicrwydd annibynnol ar:
- ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg
- yr amgylchedd rheoli mewnol
- asesiadau perfformiad
- sut yr ymdrinnir â chwynion
- cywirdeb y broses adrodd ariannol
- cywirdeb y broses lywodraethu
Mae goruchwylio archwilio mewnol ac allanol yn hollbwysig o ran sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol ar waith.
Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae Cyngor Sir Yys Môn yn rhoi cyfle i bobl fynychu cyfarfodydd mewn sawl lleoliad, gan gynnwys mynychu o bell.
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod oddeutu saith gwaith y flwyddyn, gyda lleygwyr (aelodau annibynnol) yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol. Telir y gydnabyddiaeth ariannol yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Banel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol Cymru.
Diffiniad o 'berson lleyg'
Mae person lleyg / lleygwr yn golygu:
- nad yw’n aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol (cyngor)
- nad yw wedi bod yn aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol ar unrhyw gyfnod yn ystod y 12 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad ei benodi
- nid yw’n briod neu’n bartner sifil i aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol (cyngor)
Yn ogystal â bodloni’r meini prawf, bydd rhaid i ymgeiswyr priodol fod yn anwleidyddol, yn meddu ar ddealltwriaeth o, ac wedi ymrwymo i’r Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (y Nolan Principles) a dangos y rhinweddau a nodweddion canlynol:
- Diddordeb a gwybodaeth/profiad o reolaeth ariannol, rheoli risg a pherfformiad, archwilio, cysyniadau a safonau cyfrifo a’r drefn rheoleiddio yng Nghymru.
- Yn wrthrychol, gallu meddwl yn annibynnol a meddu ar agwedd ddiduedd a'r gallu i ddefnyddio disgresiwn.
- Yn cefnogi egwyddorion llywodraethu da a’u defnyddio'n ymarferol i gyflawni amcanion sefydliadol.
- Yn meddwl yn strategol, gyda sgiliau cyfathrebu gwych.
- Gallu deall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio’n barchus.
Proffil rôl ar gyfer person lleyg
Nid oes angen gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol, er hyn, disgwylir y bydd gan ymgeiswyr posibl ddiddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus.
Dogfen
Fformatau eraill
Efallai na fydd y fformatau eraill yma'n hygyrch
Rôl fel cadeirydd y pwyllgor
Mae’n rhaid i leygwr gadeirio’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, felly mae parodrwydd a gallu i gyflawni’r rôl yn ddymunol.
Dogfen
Fformatau eraill
Efallai na fydd y fformatau eraill yma'n hygyrch
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb neu brofiad mewn:
- llywodraethu
- archwilio
- rheoli perfformiad neu risg
ac rydych eisiau helpu’r cyngor i sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu’n gywir, gallwch ymgeisio ar-lein.
Gwneud cais ar-lein
Dyddiad cau a chyfweliadau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Awst 2025.
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 8 Medi 2025.
Cysylltu â ni
Os hoffech drafod y rôl, cysylltwch ag un o'r swyddogion hyn yng Nghyngor Sir Ynys Môn: