Cyngor Sir Ynys Môn

Cais i newid y Gofrestr Tir Comin


Mae Cyngor Sir Ynys Môn (“y Cyngor”) wedi derbyn cais ar ran Anglesey Golf Club Limited (Rhif Cwmni 00138114) yn unol â c.19(2)(a) Commons Act 2006 i newid y gofrestr ar gyfer y Gofrestr Tir Comin CL34 (Comin Towyn Trewan).

Mae’r cais  yn gofyn i dynnu’r hawliau pori canlynol oddi ar y rhan hawliau o Gofrestr Tir Comin CL34 sydd heb nodi nifer yr anifeiliaid mae’r hawliau yn ymestyn: 2, 4, 5, 6, 9, 11, 12, 14, 16, 18, 19, 22, 23, 24, 28, 29, 30, 34, 35, 36, 39, 40, 43, 44, 47, 48, 49, 51 to 54, 59, 61, 68, 69, 71, 73, 74, 75, 76, 77, 78, 79, 80, 81, 82, 85, 88, 89, 90, 92, 93, 95, 96, 97, 98, 99, 101, 102, 105, 106, 108, 109, 110, 112, 115, 116, 117, 118, 119, 120, 121, 122, 123, 129, 136, 137, 141, 142, 144, 146, 147, 148, 149, 150, 151, 153, 154, 157 to 159, 162, 166, 167, 171, 175, 176, 177, 178, 180, 181, 182, 185, 186, 187, 189 ac 195.

Caiff unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cais eu gyrru i’r Cyngor drwy e-bost i landcharges@ynysmon.llyw.cymru neu drwy’r post i’r Adran Gyfreithiol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW, gyda chyfeirnod CC-27907-EGE. 

Bydd rhaid i sylwadau eu gyrru o fewn Rheoliadau 14(1) ac 14(2) Rheoliadau Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cywiro, Tir Comin Heb ei Gofrestru neu Dir Comin a Gam-gofrestrwyd) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”). Ni fydd sylwadau yn cael eu trin yn gyfrinachol. Mi fydd y Cyngor fel awdurdod cofrestredig yn delio â’r holl sylwadau yn unol â Rheoliad 14 o’r Rheoliadau 2017, ac os bydd angen mi fydd y rhain yn cael eu gyrru i’r person penodedig yn unol â Rheoliad 15 o’r Rheoliadau 2017.

Mi fydd y cais ar gael i’w harchwilio yn Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW neu medrwch gael gopi drwy yrru cais i landcharges@ynysmon.llyw.cymru 

Dyddiad cau am sylwadau

Bydd rhaid i unrhyw sylwadau cael eu derbyn erbyn 23 Tachwedd 2026.