Mae Cyngor Sir Ynys Môn (“y Cyngor”) wedi derbyn cais ar ran Anglesey Golf Club Limited (Rhif Cwmni 00138114) yn unol â c.19(2)(a) Commons Act 2006 i newid y gofrestr ar gyfer y Gofrestr Tir Comin CL34 (Comin Towyn Trewan). Mae’r cais yn gofyn i dynnu’r hawliau pori oddi ar y rhan hawliau o Gofrestr Tir Comin CL34 sydd wedi eu cofrestru ar rhes 103.
Caiff unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cais eu gyrru i’r Cyngor drwy e-bost i landcharges@ynysmon.llyw.cymru neu drwy’r post i’r Adran Gyfreithiol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW, gyda chyfeirnod CC-27907-EGE. Bydd rhaid i unrhyw sylwadau cael eu derbyn erbyn 14 Rhagfyr 2026.
Bydd rhaid i sylwadau eu gyrru o fewn Rheoliadau 14(1) ac 14(2) Rheoliadau Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cywiro, Tir Comin Heb ei Gofrestru neu Dir Comin a Gam-gofrestrwyd) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”). Ni fydd sylwadau yn cael eu trin yn gyfrinachol. Mi fydd y Cyngor fel awdurdod cofrestredig yn delio â’r holl sylwadau yn unol â Rheoliad 14 o’r Rheoliadau 2017, ac os bydd angen mi fydd y rhain yn cael eu gyrru i’r person penodedig yn unol â Rheoliad 15 o’r Rheoliadau 2017.
Mi fydd y cais ar gael i’w harchwilio yn Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW neu medrwch gael gopi drwy yrru cais i landcharges@ynysmon.llyw.cymru
Dyddiad cau am sylwadau
Bydd rhaid i unrhyw sylwadau cael eu derbyn erbyn 14 Rhagfyr 2026.