Cyngor Sir Ynys Môn

Adolygiad i drwydded eiddo: Lifestyle Express, Porthaethwy


Rhybudd cyhoeddus o adolygiad i drwydded eiddo o dan Adran 51 o Ddeddf Trwyddedu 2003

Rhoddir rhybudd yma fod cais wedi’i gyflwyno i Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer adolygu’r drwydded eiddo yn unol â’r ddeddf uchod mewn perthynas â:

Lifestyle Express
Stryd y Bont
Porthaethwy
Ynys Môn
LL9 5DN

Mae’r sail ar gyfer adolygu’r cais fel a ganlyn: atal trosedd ac anhrefn

Cyfeiriad post’r awdurdod trwyddedu, lle cedwir y gofrestr a lle gellir archwilio’r sail dros adolygu yw:

Yr Adrain Drwyddedu
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Bydd unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r mater hwn yn hysbysu’r adran drwyddedu drwy ysgrifennu at y cyfeiriad uchod neu drwy anfon neges e-bost at trwyddedu@ynysmon.llyw.cymru rhwng 6 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2026.

Mae’n drosedd mynd ati’n fwriadol neu’n ddi-hid i roi datganiad ffug mewn cysylltiad â chais a gellir derbyn dirwy o hyd at £5,000 o’ch cael yn euog o drosedd o’r fath.