Cyngor Sir Ynys Môn

Gwerthu pren o waith clefyd coed ynn


Heb ragfarn ac yn amodol ar gontract.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahodd dyfynbrisiau fesul tunnell (per tonne) ar gyfer un lot (single lot) o bren a gynaeafwyd yn 2024.

Mae’r pren yn bennaf yn ynn, ond gall gynnwys symiau bychain o rywogaethau eraill o bren caled a phren meddal.

Mae wedi’i gynaeafu gan ddefnyddio cymysgedd o grapple saw a tree shears, ac mae mewn hydau a diamedrau amrywiol fel y gwelir ar y dudalen hon. Caiff ei storio yng Nghanolfan Ailgylchu Penhesgyn y cyngor yn Ynys Môn.

Sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio

Bydd yr incwm o’r gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i plannu coed a rheoli cynefinoedd ar safleoedd y cyngor.

Cyfrifoldebau'r prynwr

Caiff y cynigion eu hasesu ar sail cyfuniad o’r pris fesul tunnell (price per tonne) a phryd a sut y bydd y pren yn cael ei symud oddi ar y safle gan y prynwr

Y prynwr fydd yn gyfrifol am:

  • llwytho'r holl pren
  • cludo’r pren yn cydymffurfio’n llawn â’r Cod Ymarfer Cludo Pren (Timber Haulage Code of Practice)
  • darparu tystiolaeth y bydd y dull cludo yn bodloni’r cod hwn

Bydd pob cerbyd sy’n casglu’r pren yn cael ei bwyso wrth gyrraedd y safle ac eto ar ôl ei lwytho ar bont bwyso (weighbridge) y cynor. Bydd slip pwysau (docket) yn cael ei ddarparu gyda phob llwyth, a bydd amserlen (schedule) yn cael ei pharatoi ar gyfer y prynwr ar ddiwedd pob wythnos neu fel y cytunir fel arall. Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn anfonebu’r prynwr ar ôl cwblhau. 

Ar ôl llofnodi’r contract, disgwylir y bydd y pren yn cael ei symud oddi ar y safle o fewn 10 wythnos.

Trefnu gweld y pren

I drefnu ymweliad neu am ragor o fanylion, cysylltwch ag Ed Henderson (Rheolwr Prosiect Clefyd Coed Ynn): 

Yn dibynnu ar argaeledd swyddogion, mae’r pren ar gael i’w weld o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ble i anfon eich dyfynbrisiau

Dylid anfon dyfynbrisiau (heb gynnwys TAW / exclusive of VAT) sy’n nodi’r

  • pris fesul tunnell
  • amserlen a dull symud

drwy e-bost I Bob Parry bobwilliamparry@ynysmon.llyw.cymru Prif Swyddog Rheoli Gwastraff.

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer dyfynbrisiau yw 24 Gorffennaf 2026.

Wood from felled ash treesWood from felled ash treesWood from felled ash trees