Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Y Cyntaf i'r Felin


Ar 2 Mai, os ydych yn 18 oed neu’n hŷn, byddwch yn gallu pleidleisio yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (PCC) ac am y tro cyntaf bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif yn defnyddio’r system y Cyntaf i’r Felin. 

Beth yw’r system y Cyntaf i’r Felin?

Pan mae etholiadau yn defnyddio’r system y Cyntaf i’r Felin, bydd eich papur pleidleisio yn rhoi rhestr o enwau a phleidiau gwleidyddol – dyma yw eich ymgeiswyr.  

Ar frig y papur pleidleisio, byddwch yn cael gwybod sawl enw i’w dewis.  

Ar ôl cyfrif, yr ymgeisydd gyda’r mwyaf o bleidleisiau fydd eich cynrychiolydd. 

Dyma fideo byr yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y system hon:

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y Cyntaf i’r Felin a sut mae’r cyfrif yn cael ei wneud mewn etholiadau eraill?

Mewn etholiadau Cyffredinol, Lleol a’r Senedd, mae pleidleiswyr yn dewis pleidlais dewis cyntaf ac ail ddewis.   Ar 2 Mai, byddwch yn dewis un ymgeisydd ar y papur pleidleisio.