Ynglŷn â’r mathau o etholiadau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru (mae rhai’n cael eu cynnal ar hyd a lled y DU ond mae eraill yn cael eu cynnal yng Nghymru neu mewn ardaloedd penodol yn unig).
Etholiadau cyngor sir (etholiadau lleol)
Mae cynghorau lleol yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau yn eich ardal chi. Mae cynghorwyr lleol yn goruchwylio gwaith y cyngor, ac yn gosod y strategaethau a'r blaenoriaethau. Mae gan Sir Ynys Môn 35 cynghorydd sy’n cynrychioli 14 rhanbarth etholiadol.
Mae’r etholiadau hyn yn cael eu cynnal pob pum mlynedd. Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn etholiadau lleol, byddwch chi'n pleidleisio dros gynghorwyr i gynrychioli eich ward (ardal neu gymuned benodol).
Gallwch bleidleisio dros gynifer o ymgeiswyr ag y sydd swyddi gwag i gynghorwyr. Bydd y papur pleidleisio yn esbonio faint o ymgeiswyr y gallwch bleidleisio drostynt.
Etholiadau cynghorau tref a chymuned
Cynghorau tref neu gymuned yw’r lefel fwyaf lleol o lywodraeth yng Nghymru a Lloegr. Eu nod yw gwella ansawdd bywyd yn eu hardal leol trwy helpu i gynnal cyfleusterau.
Mae etholiadau cynghorau tref neu gymuned yn cael eu cynnal bob pum mlynedd.
Etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig (etholiadau cyffredinol)
Mae Senedd y DU yn cynrychioli pobl y Deyrnas Unedig. Yn ystod etholiadau cyffredinol gallwch bleidleisio dros eich Aelod Seneddol lleol (AS).
Mae pob AS yn cynrychioli rhan o'r DU a elwir yn 'etholaeth' neu'n 'sedd'.
Mae etholiadau cyffredinol yn cael eu cynnal bob pum mlynedd. Mewn etholiad cyffredinol bydd gennych un bleidlais i ddewis ymgeisydd i gynrychioli eich etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin.
Etholiadau'r Senedd
Mae'r Senedd yn cynrychioli pobl Cymru. Ar hyn o bryd, mae 60 o Aelodau Senedd (ASau) etholedig ac rydych chi'n cael eich cynrychioli gan bump ohonynt. Mae un AS yn cynrychioli eich etholaeth Senedd, a'r pedwar arall i gyd yn cynrychioli eich rhanbarth.
Mae etholiadau ar gyfer y Senedd yn digwydd bob pum mlynedd ac, ar hyn o bryd, pan fyddwch chi'n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gennych ddwy bleidlais - un i ethol eich aelod etholaethol ac un i ethol eich aelod rhanbarthol.
Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai, 2026.
Yn yr etholiad nesaf hwn, bydd newidiadau i nifer aelodau'r Senedd, yr etholaethau a sut mae aelodau'r Senedd yn cael eu hethol.
Dyma bum peth y mae angen i chi eu gwybod cyn i chi bleidleisio:
- Bydd gan y Senedd 96 aelod yn hytrach na 60
- Bydd papurau pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth a bydd gan bawb 16 oed a throsodd un bleidlais i ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol
- Bydd gan Gymru un ar bymtheg o etholaethau, pob un â chwe aelod etholedig
- Rhaid i unrhyw un sy'n sefyll fyw yng Nghymru
- Bydd etholiadau'r Senedd nawr yn digwydd bob pedair blynedd
Gallwch ddysgu mwy ar wefan y Senedd.
Llywodraeth Cymru: Newidiadau i etholiadau ac aelodau'r senedd (dolen gyswllt allanol)
Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd
Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) yn sicrhau bod yr heddlu lleol yn eu hardal yn diwallu anghenion y gymuned.
Mae 41 o ardaloedd ledled Cymru a Lloegr gyda CHTh. Mae gan bob ardal un Comisiynydd.
Mae’r Comisiynydd ar gyfer Gogledd Cymru’n gyfrifol am ddwyn y Prif Gwnstabl a Heddlu Gogledd Cymru i gyfrif ar eich rhan.
Mae etholiadau ar gyfer CHTh yn digwydd bob pedair blynedd. Bydd y papur pleidleisio yn rhestru ymgeiswyr CHTh, gyda dwy golofn ar gyfer marcio eich dewis cyntaf a'ch ail ddewis.
Refferendwm
Mae refferendwm yn bleidlais ar gwestiwn am fater neu bolisi penodol. Fel arfer gofynnir i chi bleidleisio naill ai 'ia' neu 'na'.
Mae'n golygu y gallwch wneud penderfyniad uniongyrchol ar gwestiwn, yn hytrach na gadael eich cynrychiolydd etholedig i benderfynu ar eich rhan.