Etholiad cynghorydd dros rhanbarth etholiadol Bro'r Llynnoedd.
Nifer y cynghorwyr i’w hethol : 1
- Cynhelir etholiad cynghorydd sir dros y rhanbarth etholiadol uchod.
- Gellir cael papurau enwebu o swyddfeydd y Swyddog Canlyniadau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW ar ddyddiau’r wythnos rhwng 10am a 4pm neu yn electronig (gweler isod).
- Rhaid danfon papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW ar unrhyw ddiwrnod o’r diwrnod ar ôl cyhoeddi’r rhybudd hwn, ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 10am a 4pm (ac eithrio gwyliau’r banc) neu’n electronig yn unol á’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflenwi electronig isod ond ddim hwyrach na 4pm ar Ddydd Gwener, 3 Gorffennaf 2026.
- Os bydd yr etholiad yn cael ei hymladd cynhelir y bleidlais ar Ddydd Iau, 30 Gorffennaf 2026.
- Rhaid i geisiadau, diwygiadau neu ddiddymiadau pleidleisiau post newydd a phresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Mercher, 15 Gorffennaf 2026.
- Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Mercher, 22 Gorffennaf 2026.
- Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy mewn argyfwng gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Iau, 30 Gorffennaf 2026.
- Mae’n rhaid i geisiadau i ychwanegu at gofrestr etholwyr ar gyfer pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn hanner nos Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2026. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein.
Datganiad cyflwyniadau electronig
Gellir cyflwyno enwebiadau yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad hwn.
- Gellir cyflwyno papurau enwebu drwy’r cyfeiriad enwebiadau@ynysmon.llyw.cymru
- Rhaid i chi gyflwyno eich papur enwebu fel atodiad, dogfennau PDF neu Word sy’n cael eu ffafrio
- Byddwch yn derbyn ymateb wedi’i hawtomeiddio unwaith y bydd eich enwebiad wedi cyrraedd.
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad er mwyn rhoi gwybod i ymgeiswyr o’u penderfyniad o ran a yw eu henwebiad yn ddilys.
Pecyn enwebu - bydd y ddolen hon yn agor mewn porwr newydd. - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Dylan J Williams
Swyddog Canlyniadau
25 Mehefin 2026